Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Pan gychwynnodd y rhyfel, roedd Llansawel mewn sawl ffordd yn dref ddiwydiannol Gymreig nodweddiadol. Ganrif yn gynharach, bu'n lle hardd ac yn gyrchfan i artistiaid, ond ar ôl i waith haearn gael ei sefydlu yno ym 1846, tyfodd y pentrefan yn bentref ac yna'n dref, gyda chyflogaeth yn y gwaith mwyndoddi, y rheilffordd a'r dociau.
Roedd y drefn yn hen gyfarwydd â chynnal ei busnes ei hun, ac roedd ganddi hunaniaeth a oedd ar wahân i Gastell-nedd. Roedd wedi ffurfio Bwrdd Lleol ym 1864 a ddaeth yn Ddosbarth Trefol ym 1894. Pan gychwynnodd y rhyfel, unwaith y daeth hi'n amlwg y byddai hwn yn rhyfel hir, dechreuodd cymunedau ledled y wlad gymryd camau i nodi'r cyfraniad a wnaed gan eu dinasyddion. Roedd hyn ar sawl ffurf. Anfonodd rhai barseli o gyflenwadau i'r ffrynt, ond roedd yn well gan eraill wneud cyflwyniadau coffaol. Ym 1916, ffurfiwyd Pwyllgor Cronfa'r Bechgyn ar y Ffrynt gan Lansawel, a gododd arian i dalu am brynu watshis i'r bechgyn. Wedi i'r rhyfel ddod i ben, defnyddiwyd balans y gronfa a oedd yn weddill i dalu am y gofgolofn rhyfel sy'n sefyll ar Heol Castell-nedd heddiw.
Yma yn Archifau Gorllewin Morgannwg, rydym yn cadw cofnod cyflawn iawn o'r hyn a gyflawnodd y pwyllgor, sy'n cynnwys rhestrau o ddynion a fu'n gwasanaethu, cofnodion gwasanaeth milwyr arwisgedig, papurau cynllunio ar gyfer y gofgolofn rhyfel a threfn y digwyddiadau i'w chyflwyno ar 12 Tachwedd 1921. Er ei bod hi'n stori a gafodd ei hailadrodd dro ar ôl tro mewn trefi ar hyd a lled y wlad, mae'r cofnodion hyn yn bwysig am eu bod yn dal i oroesi i ddangos faint o ofal a pharch oedd ynghlwm wrth gydnabod cyfraniad y bobl a ymladdodd ac a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.