Toglo gwelededd dewislen symudol

Eglwys y Bedyddwyr Gymraeg Bethania, London Road, Castell-nedd

Rhestr y Gwroniaid

Eglwys y Bedyddwyr Gymraeg oedd Bethania, yn London Road, Castell-nedd. Fe'i hadeiladwyd ym 1862 yn dilyn diwygiad 1859-60 yn gartref i achos y Bedyddwyr yng Nghymru. Parhaodd gwasanaethau yn Gymraeg nes i'r capel gau yn 2022. Ar ôl i'r capel gau, gyda'r adeilad ar werth, trosglwyddwyd rhestr y gwroniaid i'r Gwasanaeth Archifau yn 2023.

Mae rhestr y gwroniaid yn mesur 33cm x 47cm ac fe'i tynnwyd o'i ffrâm a oedd wedi'i difrodi'n wael gan bryfed pren. Mae wedi'i darlunio'n gain iawn. Mae'r cyfansoddiad ar ffurf tabled gydag amgylchyn Art-Déco naïf, ac mae enwau'r chwe deg o ddynion a fu'n gwasanaethu yn y rhyfel wedi'u trefnu mewn dwy golofn ar gorff y darn. Un enw'n unig sydd â seren yn ei ymyl i ddangos ei fod wedi marw mewn brwydr. Mae'r galigraffeg wedi'i chyflawni'n dda, gyda llythrennau cyntaf wedi'u pwysleisio mewn inc coch. Yn anarferol am gapel Cymraeg, mae'r teitl yn Saesneg, nid Cymraeg. Oddi tano mae cynrychioliad o dorch yn amgylchynu'r geiriau 'Peace and Justice', gyda dwy faner yn eu gorchuddio: mae'r Lluman Gwyn ar y chwith yn cynrychioli'r Llynges Frenhinol a'r egin-Awyrlu Brenhinol, ac mae Baner yr Undeb ar y dde'n cynrychioli'r fyddin. Mae portread bychan y tu ôl i bob baner yn darlunio'r llu perthnasol yn ymladd. O gwmpas ymyl y cyfansoddiad, amlygir y cefndir gan haenau aur. Mae'r lliwiau'n ffres ac yn glir, ond mae'r goreurad yn fflawio mewn mannau. Fe'i darluniwyd gan Thomas Lloyd Dennis o Gastell-nedd, artist lithograffig hunangyflogedig a oedd yn byw yn Bryn Road, Castell-nedd.

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [938KB]

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Tachwedd 2023