Toglo gwelededd dewislen symudol

Eglwys Bresbyteraidd Bethany, Port Talbot

Rhestr Anrhydedd

Roedd Bethany'n Eglwys Methodistiaid Calfinaidd Gymraeg ar gornel Heol yr Orsaf a Heol Forge yng nghanol Port Talbot. Sefydlwyd yr eglwys ym 1879 ar adeg pan roedd y dref yn dechrau tyfu'n gyflym wrth i fwyfwy o bobl ddod i'r ardal i weithio yn y gwaith mwyndoddi a'r dociau.

Caeodd y capel yn 2000 a throsglwyddwyd y ffotograffau wedi'u fframio a arferai hongian yn y capel i'r Gwasanaeth Archifau, ynghyd â'r rhestr gwroniaid hon. Mae'n mesur 37cm x 50cm ac mae wedi'i thynnu o'i ffrâm wreiddiol.

Fe'i dyluniwyd a'i gwneud gan gwmni o Lundain sef Waterlow and Sons, a'i ddarlunio'n goeth mewn inc du a lliw, gyda'r manylion wedi'u hamlygu'n aur. Yn annhebyg i'r rhan fwyaf o restrau gwroniaid eraill, nid yw'n gwneud unrhyw ymgais i ddarlunio sgrôl, tabled nac unrhyw beth adeileddol, ond mae'n cyflwyno'r rhestr o enwau o dan bennawd wedi'i addurno ag addurn blodeuog arddulliedig cain. Mae'n cofnodi enwau 107 o ddynion o'r gynulleidfa a ymladdodd yn y rhyfel. Mae hefyd yn cofnodi pa rai ohonynt (saith i gyd) a fu farw, a'r rhai a dderbyniodd y Fedal Filwrol ("MM") neu'r Groes Filwrol ("MC").

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [3MB](Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Tachwedd 2023