Toglo gwelededd dewislen symudol

Eglwys yr Holl Saint, Cilfái, Abertawe

Llun o'r gofeb rhyfel sydd yn yr eglwys

Eglwys Anglicanaidd (yr Eglwys yng Nghymru) oedd Eglwys yr Holl Saint, Cilfái a wasanaethai blwyf ar lan ddwyreiniol afon Tawe yn Abertawe. Fe'i hadeiladwyd ym 1842. Pan gychwynnodd y rhyfel ym 1914, roedd plwyf Cilfái'n cynnwys pentrefi diwydiannol a thai teras gwasgaredig, ac roeddent yn cynnwys Pentreguinea, Foxhole a Phentrechwyth, yr oedd llawer o'u preswylwyr yn gweithio yn y gweithfeydd copr, dur a thunplat a fu unwaith yn flaenllaw yng Nghwm Tawe isaf.

Gorfodwyd yr eglwys i gau tua diwedd 2015 oherwydd diffygion adeileddol ac mae wedi aros yn wag ers hynny. Mae'r llun, a gedwir yn y Gwasanaeth Archifau, yn rhan o arolwg ffotograffig o'r eglwys a wnaed tua'r adeg y cafodd ei chau, ac felly caiff ei chynnwys yma, er bod y gofeb y mae'n ei darlunio'n dal ar wal yr eglwys.

Mae'r gofeb wedi'i gwneud yn goeth, o farmor o wahanol liwiau, ac fe'i dadorchuddiwyd gan Faeslywydd yr Arglwydd Grenfell o Gilfái. Mae'r llech tair rhan yn cofnodi enwau 68 o ddynion o blwyf Cilfái a fu farw yn y rhyfel (nid 67 fel a nodir ar y goflech). Y ddau enw a geir isod yw enwau dau efell a oedd yn neiaint yr Arglwydd Grenfell a fu farw yn y rhyfel. Nid oeddent o'r ardal leol, ond fe'u cynhwyswyd o barch tuag at eu hewythr.

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r llun o'r Gofeb Rhyfel (PDF) [207KB](Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Tachwedd 2023