Toglo gwelededd dewislen symudol

Dosbarth Beibl Ysgol Genedlaethol Abertawe

Rhestr Anrhydedd

Bydd pobl sydd wedi byw yn Abertawe ers tro'n cofio Ysgol Stryd Rhydychen a arferai sefyll lle mae'r maes parcio yn awr, gyferbyn â Theatr y Grand. Fe'i sefydlwyd fel Ysgol Genedlaethol Abertawe ym 1847.

Sefydlwyd Ysgolion Cenedlaethol gan y Gymdeithas Genedlaethol er Hyrwyddo Addysg Grefyddol. Roedd yr ysgolion hyn yn darparu addysg yn unol â dysgeidiaeth yr Eglwys Anglicanaidd, a sefydlwyd un Abertawe dan elusen a weinyddwyd gan Eglwys y Santes Fair. Daeth Ysgol Stryd Rhydychen yn Ysgol Uwchradd Fodern ar ôl yr Ail Ryfel Byd a chaeodd ym 1969. Dymchwelwyd yr adeilad ar ddiwedd y 1980au a chafodd y safle ei wastatáu er mwyn gosod maes parcio.

Ar ddechrau'r 20fed ganrif, roedd Eglwys y Santes Fair yn cynnal dosbarth Beiblaidd yno dan ofal Syd Solomon, un o wardeniaid yr eglwys. Cadwyd cofnod yno o'r hen ddisgyblion hynny a oedd wedi ymuno â'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ar ôl y rhyfel, lluniwyd y rhestr gwroniaid brintiedig hon ganddynt a'i chylchredeg. Mae'n boster printiedig bach sy'n mesur 18cm x 28cm. Fe'i plygwyd ar ryw adeg a daeth atom o gasgliadau Llyfrgell Abertawe. Heblaw am hynny, ychydig iawn sy'n hysbys am ei darddiad. Mae'n cofnodi enwau 66 o ddynion a wasanaethodd yn y rhyfel a phump arall a fu farw wrth ymladd.

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF, 870 KB) (Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Tachwedd 2023