Toglo gwelededd dewislen symudol

Cylchgrawn Eglwys Gŵyr

Rhestr anrhydedd dros eglwysi Gŵyr, 1916

Er bod llawer o'r eglwysi mawr yn yr ardal yn cynhyrchu eu cylchgrawn plwyf eu hunain, mae'r plwyfi ar Gŵyr yn cynhyrchu un cyhoeddiad ar y cyd bob mis, sy'n cynnwys newyddion o bob un o'r plwyfi yn yr ardal. Mae'r plwyfi penodol yn Llandeilo Ferwallt, Pennard, Llanilltyd Gŵyr, Penmaen, Nicholaston, Oxwich, Penrice, Reynoldston, Llanddewi a Llan-y-tair-Mair, Port Eynon, Rhossili, Llangennith, Llanmadoc, Cheriton, Llanrhidian a Llanyrnewydd (Penclawdd).

Ym mis Rhagfyr 1916 cynhyrchwyd atodiad i'r cylchgrawn trwy waith George Baker-Haynes o Frynhir. Dyma'i ragair:

"Fy NGHYMDOGION A FFRINDIAU, Gan gymryd, fel y gwnaf yn naturiol, ddiddordeb mawr ym mhob mater sy'n gysylltiedig â Gŵyr annwyl, credaf ei bod yn ddymunol y dylai fod yn gofnod lleol parhaol o bawb sy wedi ymuno â'n Fyddin neu Lynges, a thrwy hyn wedi gwneud yn ffyddlon ac yn urddasol eu dyletswydd i'w Brenin, Gwlad a Chartrefi... "

Gan ei fod mewn ffurf cylchgrawn, mae'n gallu cynnwys mwy o wybodaeth nag oedd yn bosibl ar y rholiau anrhydedd wedi'u fframio. Mae'n rhestru'r dynion Gŵyr i gyd o bob plwyf a ymunodd hyd at y dyddiad hwnnw, ynghyd â nodiadau o ran lle'r oeddent yn gwasanaethu a beth oedd wedi digwydd iddynt wedyn. Er ein bod yn cadw cyfrolau rhwymedig o Gylchgrawn Eglwys Gŵyr yma yn yr Archifau, nid ydynt yn cynnwys fersiwn gwreiddiol o'r rhifyn arbennig hwn, ond rydym yn ffodus o gael y trawsgrifiad hwn.

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r trawsysgrif o'r rhestr anrhydedd (PDF) [1MB](Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Tachwedd 2023