Toglo gwelededd dewislen symudol

Neuadd Genhadol Ebenezer, Abertawe

Rhestr Anrhydedd

Dathlodd Eglwys Annibynnol Gymraeg Ebeneser ei chanmlwyddiant ym 1904, ac i nodi'r achlysur, sefydlwyd neuadd genhadaeth i ddarparu ar gyfer y siaradwyr Saesneg yn yr ardal. Adeiladwyd y neuadd drws nesaf i'r capel, sy'n sefyll ar Stryd Ebeneser, ger gorsaf Abertawe. Roedd y genhadaeth Saesneg felly'n eithaf newydd ar gychwyniad y rhyfel.

Ymunodd yr eglwys â Chapel Stryd Henrietta yn y 1970au gan symud allan o'r capel ar Stryd Ebeneser, a gafodd ei ddefnyddio wedyn gan Eglwys y Bedyddwyr Waunwen, yr oedd angen adeilad newydd arnynt.

Roedd y rhestr gwroniaid hon wedi'i fframio'n wreiddiol, ac yn ôl pob tebyg bu'n hongian gynt ar y wal y tu mewn i'r neuadd genhadaeth.  Mae wedi'i dylunio'n dda a'i darlunio'n goeth mewn inc a dyfrlliw, er nad oes llofnod i ddangos pwy oedd wedi'i darlunio. Mae'n mesur tua 35cm x 47cm.

Ac eithrio'r tri ar ddeg enw, ni roddir unrhyw wybodaeth am y dynion ar y rhestr; fodd bynnag, mae ymchwil yn awgrymu bod yr holl ddynion hyn wedi goroesi, gan nad oes modd canfod eu henwau yn y rhestr o laddedigion.

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [811KB](Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Tachwedd 2023