Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith Gilbertson, Pontardawe

Rhestr Anrhydedd

Roedd y gwaith tunplat a arferai edrych dros dref Pontardawe yn eiddo i W. Gilbertson and Company. Prynodd William Gilbertson y gwaith ym 1860 ac roedd wedi datblygu'n fenter sylweddol erbyn cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddarparu cyflogaeth, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, i'r rhan fwyaf o boblogaeth Pontardawe.

Caeodd y gwaith ym 1962, a chliriwyd y safle mewn sawl cam dros y pedwar degawd nesaf. Saif ysgol, canolfan hamdden ac eiddo manwerthu ar y safle heddiw.

Mae'r Rhestr Gwroniaid yn un o'r cofnodion a achubwyd o'r hen waith. Er y byddai unwaith wedi cael y prif le, mae wedi dioddef oherwydd lleithder ac esgeulustod cyn dod yn y pen draw i'r Gwasanaeth Archifau. Fe'i dyluniwyd a'i ddarlunio gan y cwmni papur newydd o Gaerdydd, y Western Mail, ac mae ar ffurf triptych (h.y. mae mewn tair rhan), a phob rhan yn mesur   37cm x 77cm. Mae wedi'i darlunio'n hardd, gydag inc lliw a goleubwyntiau aur. Mae'n cynnwys enwau 319 o ddynion a ymladdodd yn y rhyfel, wedi'u trefnu yn ôl yr adran yr oeddent yn gweithio ynddi. Mae hefyd yn cynnwys enwau'r 34 o ddynion a fu farw, sydd mewn lle arbennig ar frig y rhan ganol.

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [2MB](Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Tachwedd 2023