Toglo gwelededd dewislen symudol

Capel Annibynnol Henrietta Street, Abertawe

Rhestr Anrhydedd a Chofeb Rhyfel

Cychwynnodd Eglwys Annibynnol Gymraeg Stryd Henrietta fel cyfarfod cynulleidfaol yng Nghapel Seion ar y Stryd Fawr, Abertawe, ym 1891. Fe'i gwerthwyd ym 1895 ac adeiladwyd y capel yn Stryd Henrietta yn ei le. Roedd yr eglwys yn rhannu gweinidog ag Ebeneser, y Stryd Fawr yn ystod y 1970au ac ym 1976, unodd y ddwy eglwys, gan ddefnyddio'r capel yn Stryd Henrietta a ailenwid yn Ebeneser Newydd. Caeodd yr eglwys yn 2018 a chafodd y gweddill o'i gofnodion eu hadneuo yn y Gwasanaeth Archfau, gan gynnwys y ddwy gofeb yma.

Ym 1914, roedd capel Stryd Henrietta yn gymharol newydd, wedi'i adeiladu ymysg y grid o strydoedd teras a oedd wedi datblygu i'r gorllewin o ganol y dref yn ystod oes Victoria.

Dyluniwyd Rhestr y Gwroniaid gan y caligraffydd Morgan Thomas o Abertawe, a'i llunio mewn inc du a lliw gyda phriflythrennau euraid yn y teitl a'r llofnod. Fe'i darluniwyd ar ddalen o bapur wedi'i fowntio ac mae'n mesur 45cm x 55cm. O ran ei chyfansoddiad, mae'n gymharol blaen a diaddurn, gyda sgrôl a baner syml uwchben enwau aelodau'r eglwys, yn ddynion ac yn fenywod, a fu'n gwasanaethu yn y rhyfel.

Mae'n arbennig o addysgiadol gan ei bod yn enwi catrodau ac mewn rhai achosion yn nodi rhifau gwasanaeth. Mae 32 enw i gyd, y mae gan dri ohonynt symbol nesaf atynt i ddangos eu bod wedi marw. Rhestrir pedair menyw: mae tair yn nyrsys ac un yn aelod o Lu Awyr Brenhinol y Merched (WRAF), a ffurfiwyd ar 1 Ebrill 1918.

Cafodd y gofeb rhyfel ei gwneud o bres ac mae'n mesuro 38 x 60 cm. Mae'r dyluniad wedi'i ysgythru a'i lenwi ag enamel o dri lliw: mae'r ymyl yn wyrdd, mae'r addurniadau'n goch ac mae'r llythrennau'n ddu. Mae hyn yn cynnwys enwau'r tri dyn a fu farw, gyda'u cyfeiriadau a blynyddoedd marwolaeth.

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [824KB](Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Tachwedd 2023