Lleolir Capel Mynyddbach ar ben y lôn sy'n arwain i'r gorllewin o Heol Llangyfelach, rhwng Treboeth a Llangyfelach. Capel yr Annibynwyr oedd e, a chafodd ei adeiladu yn ei leoliad gwledig yn y 1760au, er bod y cynulleidfa yn cwrdd yn ffermdai lleol ers y 1640au. Dros y blynyddoedd, ehangodd Abertawe a'i maestrefi tua'r gogledd ac aeth aelodau Capel Mynyddbach i sefydlu nifer o ferch eglwysi yn llefydd mor eang ag Abertawe, Glandŵr a Gorseinon.
Caewyd y capel yn 2011 ac roedd yna bosibilrwydd o'i chwalu, ond cafodd e ei achub trwy ymdrechion grŵp lleol a'i trawsnewid yn ganolfan dreftadaeth. Canolfan Galon Lân yw ei henw. Mae cofnodion y capel yn Archifau Gorllewin Morgannwg.
Cafodd y ddwy restr anrhydedd yma eu llunio gan Ivor Stanley Rees. Dyluniwr peiriannol yn y gwaith tunplat oedd e, ac yn byw yn Rhes Bartley, Plasmarl. Mae'r rhestr anrhydedd gyntaf, sy'n mesuro 49 x 67 cm, yn cynnwys enwau a manylion castrawd llawn y 19 o ddynion a aeth i frwydro, ond mae'n debyg bod cymaint o ddynion o'r capel wedi ymuno wedyn, roedd yn glir ni fyddai'n ddigon i gynnwys yr enwau i gyd. Cafodd ei gadael felly, ac un newydd ei dylunio, yn cynnwys llai o wybodaeth, ond mwy o le dros enwau. Mae'r un yma yn mesuro 50 x 77 cm ac yn rhestru 60 o enwau yng nghyfanswm, gan gynwys un menwy, Eunice Thomas, oedd yn aelod o'r Women's Army Auxiliary Corps. Cafodd enwau tri o ddynion ei fframio'n ddu i ddangos eu bod wedi marw.
Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r ail restr anrhydedd (PDF)
[1MB](Yn agor ffenestr newydd)
Yn ôl i'r rhestr o enwau