Toglo gwelededd dewislen symudol

Eglwys Sant Luc, Cwmbwrla, Abertawe

Rhestr anrhydedd, a llun o'r gofeb rhyfel yn yr eglwys

Roedd Eglwys Sant Luc yn eglwys Anglicanaidd (yr Eglwys yng Nghymru) a wasanaethai blwyf bach yn ardal Cwmbwrla yn Abertawe. Fe'i hadeiladwyd mewn dau gam ym 1889-1890, yn eglwys genhadaeth ym mhlwyf y Cocyd, cyn dod yn eglwys blwyf yn ei rhinwedd ei hun ym 1911. Datblygodd yr adeilad broblemau adeileddol difrifol yn y 2000au, a'i gorfododd i gau yn 2014, ac unodd ei phlwyf â Threfansel gerllaw. Saif yr adeilad o hyd ar Stryd Stepney.

Pan gychwynnodd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Eglwys Sant Luc a'i phlwyf yn eithaf newydd. Nodweddwyd y plwyf gan derasau o dai hŷn ar hyd Heol Caerfyrddin ac yn ymledu o Sgwâr Cwmbwrla, gyda datblygiadau mwy newydd ar hyd Heol Ganol. I'r de-ddwyrain safai Gwaith Cwmfelin gyda'i dair simnai nodweddiadol, ac ymhellach i'r gorllewin roedd pyllai clai a gwaith brics.

Cadwai Ficer Eglwys Sant Luc lyfr nodiadau â rhestr o'r dynion o'r plwyf a aeth i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Er y'i gelwir yn rhestr gwroniaid ar y dudalen deitl, nid darn o gelfwaith ydoedd ond dogfen ymarferol y bwriedid iddi helpu gyda gweddïau wythnosol ac wrth ddarparu gofal bugeiliol. Mae'n cofnodi cyfeiriadau a nifer y plant, gan ddibynnu ar bob un o'r dynion, ynghyd â nodiadau am y rhai a glwyfwyd neu a laddwyd.

Ar ôl y rhyfel, gosodwyd coflech ffurfiol yn yr eglwys i goffáu'r rhai a laddwyd (gwelwch uchod). Roedd hon yn gymharol blaen a diaddurn - marmor gwyn ar gefndir du - gydag enwau'r meirw wedi'u nodi mewn du. Fe'u rhestrir hefyd yn nhrefn y gwasanaeth ar gyfer cyflwyno'r goflech. Ar ôl cau'r eglwys, gwnaed arolwg ffotograffig o'r tu mewn, felly caiff llun o'r goflech ei gynnwys yma, y gellir darllen yr enwau'n glir arno. Rhestrir enwau dwy fenyw. Gweithiai un ohonynt, Eleanor Thomas, mewn ffatri arfau rhyfel ac fe'i lladdwyd mewn ffrwydrad wrth ddigomisiynu arfau ar ôl i'r rhyfel ddod i ben.

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [3MB](Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Tachwedd 2023