Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Eglwys Sant Marc, Waunwen, Abertawe

Lluniau o'r rhestr anrhydedd a chofeb rhyfel oedd yn yr eglwys

Roedd Eglwys Sant Marc yn eglwys Anglicanaidd (yr Eglwys yng Nghymru) a fu'n gwasanaethu plwyf bach yn ardal Waunwen, Abertawe, tan 2011. Fe'i hadeiladwyd ym 1887 a'i chysegru ar 1 Rhagfyr yn yr un flwyddyn, yn un o bedair eglwys newydd yn Abertawe i'w hadeiladu tua'r un cyfnod. Adeiladwyd yr eglwys hon am lawer llai o arian na'r tair arall, ac roedd ganddi bileri pren a bwâu yn hytrach na'r arcedau carreg mwy arferol.

Ar adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, nodweddwyd y plwyf gan derasau clòs a thai o ansawdd gwael, er y byddai llawer ohonynt yn cael eu clirio'n ddiweddarach dan gynlluniau clirio slymiau amrywiol yr ugeinfed ganrif.

Caewyd yr eglwys yn 2011 a'i dymchwel wedi hyn, ond cyn i hynny ddigwydd, gwnaed arolwg ffotograffig o'r tu mewn iddi a oedd yn cynnwys y lluniau hyn o restr y gwroniaid a'r gofeb rhyfel.

Lluniwyd Rhestr y Gwroniaid gan William Morris o Stryd Rutland, Abertawe ac fe'i gosodwyd ar y wal orllewinol yng nghefn yr eglwys. Roedd yn ddarn o farmor siâp hirsgwar a restrai enwau 125 o ddynion o'r plwyf a fu'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

Roedd y gofeb rhyfel, hefyd o farmor, ar y wal ogleddol, a chofnodai enwau 18 dyn arall a fu farw yn y rhyfel.

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Tachwedd 2023