Tabor, Capel yr Annibynwyr, Abergwynfi
Rhestr Anrhydedd
Erbyn haf 2018 roedd y capel wedi cau ac wedi cael ei roi ar werth, a throsglwyddwyd y gofrestr anrhydedd, trwy lwybr cylchol, i Archifau Gorllewin Morgannwg.
Mae'r Rhestr Anrhydedd wedi gweld dyddiau llawer gwell: mae wedi cael ei ddifrodi'n ddrwg trwy fod yn wlyb dros y blynyddoedd, ond nawr mae wedi cael ei atgyweirio, ac mae'r 51 enw i gyd yn ddarllenadwy. Mae ar ffurf tabled â bracedi yn arddangos yr enwau, â dau angel â thrwmpedau yn hedfan uwchben, yn dal baner gyda'r geiriau "Blwyddyn 1919 Heddwch". Mae'n inc a golch ar bapur ac, a barnu yn ôl manwl gywirdeb y lluniad a chaligraffeg, mae'n waith drafftiwr proffesiynol yn hytrach nag arlunydd, er nad yw wedi'i lofnodi.
Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [622KB](Yn agor ffenestr newydd)