Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Abertawe Arforol

Golwg o Harbwr Abertawe wedi'i dynnu o'r Lanfa (cyfeiriad llun P/PR/87ii/3/1)

Mae'r golwg go ddigyffro hwn yn adnabyddadwy iawn heddiw fel Cei Tŷ Peilot. Mae'r Tŷ Peilot ar y chwith, wedi'i adeiladu o fricsen, yn bodoli o hyd heddiw (mae'n siop beiciau). Felin Flawd Weavers oedd yr adeilad mawr, yn y pellter ychydig i'r dde o ganol y llun. Cafodd ei hadeiladu ym 1897, wedi'i dylunio gan François Henebique, ac roedd yr adeilad cyntaf o goncrid cyfnerthedig yn Ewrop. Roedd yn arwyddnod blaengar pan yn agosâu Abertawe o'r dwyrain, ond cafodd ei dymchwel ym 1984. Mae Sainsburys ar y safle heddiw.

Canrif yn ôl, roedd Harbwr Abertawe'n lle brysur, bywiog, â rhai llongau yn cludo cynwyddau i'w gwerthu ac eraill yn cario glo a physt pwll, mwyn a chynwyddau metel wedi'u cwblhau. Doc y De yna oedd y Marina heddiw; roedd Doc y Gogledd lle mae Parc Tawe nawr, ac roedd Dociau Tywysog Cymru a Brenin i'r dwyrain. Roedd Doc y Frenhines yn cael ei hadeiladu.

Reit ar y dde gallwch chi weld Pont y Toriad Newydd.  Heddiw, gallwch chi weld y pileri a'i hatgyfnerthodd yn yr afon gerllaw i'r bont ffordd dros yr Afon Tawe. Cariodd y rheilffordd oedd yn cysylltu Doc y De a'r ddau ddoc yn y dwyrain.

Nesaf: Adeiladau rhagorol lle oedd y slymiau gynt

[Awgrymiad: cliciwch y llun i'w weld yn fanwl]

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Ionawr 2023