Toglo gwelededd dewislen symudol

Hen ysbyty Abertawe

Ysbyty Cyffredinol a Llygaid Abertawe, Ffordd Sain Helen (cyfeiriad llun P/PR/27/3/3)

Wedi'i sefydlu ym 1814 fel fferyllfa a fel clafdy o 1817, roedd Ysbyty Abertawe (Ysbyty Cyffredinol a Llygaid oedd ei enw pan gymerwyd y llun yma) ar y cornel rhwng Ffordd Sain Helen a Ffordd Brynymor. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, adeiladwyd ysbytai Treforys a Singleton, a chaewyd yr hen ysbyty ym 1968. O'r adeiladau gwreiddiol, dim ond y bloc ar chwith y llun sy'n goroesi. Heddiw mae'n Ty Homegower.

Roedd Ffordd Sain Helen yn rhodfa â choed mewn rhesi ar ei hyd, a cheblau tram a thelegraff yn groesymgroes uwchben. Ar ochr y gogledd roedd filâu coeth Fictoriaidd, ac ar hyd ar ochr y de roedd rhesi o dai, â chapeli yn ei plith.

Nesaf: Ar lan y môr

[Awgrymiad: cliciwch y llun i'w weld yn fanwl]

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Ionawr 2023