Gebuza Nungu: Rhyfelwr Zwlw ym mhentref Pennard
Roedd Gebuza Nungu (22/07/1870-1949) yn byw ym mhentref Pennard, Abertawe yn y 1930au tan ei farwolaeth ym 1949. Adeiladodd fyngalo o'r enw The Kraal yn 'East Cliff' lle bu'n byw gyda'i wraig Mary Nungu.
Ganwyd Gebuza yn Ulundi, cyn-brifddinas y deyrnas Zwlŵaidd ar 22 Gorffennaf 1870. Daeth i'r DU ym 1898 pan oedd yn 28 oed gyda "The Savage South Africa Show". Mae hen ffilm a ddelir gan y 'British Film Institute' yn dangos y cwmni'n cyrraedd y wlad. Ni allwn wybod yn sicr a yw Gebuza yn y ffilm hon, na'i adnabod os ydyw, ond mae'r ffilm yn rhoi blas o'r hyn yr oedd y sioe yn ei gynnwys. Teithiodd a pherfformiodd Gebuza gyda'r sioe am nifer o flynyddoedd cyn iddo chwalu, ac mae bron yn sicr mai cychwyniad y Rhyfel yn erbyn y Boeriaid a achosodd hyn.
Gwyliwch 'The Landing of Savage South Africa at Southampton' ar-lein - BFI Player
Mae erthygl am Gebuza o'r Anglo Zulu War Journal(Gentle giant a link with epic Rorke's Drift battle (anglozuluwar.com)) yn dweud ei fod yn ddofwr llewod a oedd yn teithio gyda'r enwog Bostock and Wombell Touring Menagerie. Daeth y fath sioeau teithiol yn fwyfwy poblogaidd ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg drwy'r holl wlad. Mewn poster ar gyfer y sioe deithiol, caiff y dofwr llewod ei ddarlunio fel dyn du; efallai bod y darlun hwn yn seiliedig ar Gebuza? Does dim ffordd o wybod yn bendant ond mae e'n dweud wrthym fod wynebau nad oeddent yn wyn yn ymwneud â chynhyrchiad y sioe.
Yng nghyfrifiad 1901, mae Gebuza yn 31, yn byw yng Nghaeredin ac yn lletya gyda Samuel a Jessie Bradford a'u pedwar o blant. Dywed mai ei alwedigaeth yw perfformiwr syrcas. Nodir mai ei fan geni yw Gwlad y Zwlw ac ymddengys ei fod yn briod. Fodd bynnag, wrth chwilio am gofnod o'i briodas, mae dau gofnod o Gebuza Nungu yn priodi yn y DU. Mae un ym 1901, ym mis Tachwedd (ar ôl cyfrifiad 1901), ac un arall ym 1907 ym Mhont-y-pŵl.
Ym mis Tachwedd 1901 priododd Mary Alice Feran (g.04/01/1873) yn Eglwys yr Holl Saint Bolton. Ym 1907, priododd eto ym Mhont-y-pŵl, ni wyddom dan ba amgylchiadau, ond Mary oedd enw ei wraig newydd hefyd.
Erbyn cyfrifiad 1911, roedd Gebuza, a oedd bellach yn 40 oed, yn byw yn 74, Greenhill Road, tŷ chwe ystafell yn Sebastopol, Sir Fynwy. Mae'n ymddangos yn dŷ eitha' mawr am un deiliad; ychydig ddrysau ar hyd y stryd mae teulu o ddeg yn byw mewn tŷ tebyg! Rhestrir Gebuza fel gŵr priod, ond nid yw ei wraig gydag ef ar noson y cyfrifiad. Ei alwedigaeth ym 1911 yw dyn ffwrnais yn y gwaith dur, Gwaith Dur Panteg gerllaw o bosib.
Erbyn 1916, mae Gebuza yn byw yn Toft Place, Llanelli ac yn gweithio yng ngwaith galfaneiddio Gorse yn Nafen. Gwyddwn hyn o adroddiad yn y Cambrian Daily Leader a ddisgrifiodd achos Catherine Thomas, merch 11 oed, a gafwyd yn euog o ddwyn dillad golchi Gebuza. Cafodd ddirwy o £1 am ei throsedd.
Erbyn amser cofrestr 1939, mae Gebuza yn byw yn "The Kraal", Bae Hunts, Southgate (25, Eastcliff) gyda'i wraig Mary Nungu. O'r cofrestrau etholiadol, gwyddwn fod y ddau wedi byw gyda'i gilydd yno tan farwolaeth Gebuza ym 1949. Ar ôl hynny, parhaodd Mary i fyw yn The Kraal tan ei marwolaeth ym 1964.
Pan oedd yn byw ym mhentref Pennard, bu Gebuza yn gwasanaethu yn y Gwarchodlu Cartref yn 15fed Bataliwn (Gŵyr) Morgannwg. O'r gofrestr aelodau, gallwn weld bod llawer o gymdogion Gebuza wedi gwasanaethu yn y gwarchodlu gydag ef. Ymunodd ym mis Mai 1940 ac ymddeolodd o'r gwasanaeth ym mis Awst 1944.
Beth mae hanes Gebuza yn ei ddweud wrthym? Mae ei fywyd a'i yrfa llawn digwyddiadau'n dweud wrthym er iddo gyrraedd glannau'r DU fel rhan o sioe hynod, ymgartrefodd yma a bu'n byw ei fywyd fel Zwlw balch yn ne Cymru. Byddai wedi bod yn hawdd iawn iddo newid ei enw i rywbeth a oedd yn swnio'n fwy cyffredin (mae sôn fod pobl yn ei alw'n George Black) ond ar yr holl ddogfennaeth swyddogol, fe'i gwelwn yn cadw ei enw gwreiddiol. Rhoddodd yr enw "The Kraal" i'w fyngalo yn Pennard: gair Affricaneg am loc i wartheg. Mae'n awgrymu ei fod yn falch iawn o'i dreftadaeth ac nad oedd yn teimlo bod angen iddo wanhau ei hunaniaeth. Zwlw, dofwr llewod, gweithiwr dur, un o'r gwarchodlu cartref; Yn ystod ei flynyddoedd olaf, bu'n byw mewn cornel tawel, traddodiadol a gwledig o benrhyn Gŵyr, gan chwarae ei ran yn y gymuned yn ystod y rhyfel fel y gwnaeth llawer o'i gymdogion.