Toglo gwelededd dewislen symudol

Llysgenhadon Bach

Yn ogystal â'r plant a letywyd yn Nhŷ Parc Sgeti, roedd 'trefedigaethau' o ffoaduriaid Basgaidd yn ardal Brechfa yn Sir Gâr ac yng Nghaerleon yn Sir Fynwy.

Little Ambassadors
Ym Mrechfa, trodd y berthynas rhwng y gymuned leol a'r ffoaduriaid yn sur ar ôl i rai o'r plant ymddwyn yn afreolus. Ni chafwyd y fath ddigwyddiadau yn Abertawe.

Mae'r adroddiad yma o'r South Wales Evening Post o 19 Gorffennaf 1937 yn dweud mwy:


Little Basque Ambassadors: A Sketty Park House Episode

Swansea's Basque Children at Sketty Park House, whose greatest excitement so far has been a last minute place on the Royal route to see the King and Queen's progress to the Guildhall, are getting on well under the better arrangements for food, etc., that the home provides, and many of them are putting on weight.

Considerable numbers of weekend visitors continue to come to them, and last weekend those included a number of Spanish sailors, of whom one gave them an admirable talk.

In this he emphasised the opportunities open to the children of creating good relations between Britons and Spaniards, since not a great deal was known of Spain in Britain. There was, he urged, a fine opportunity, by exemplary conduct based on gratitude for hospitality, of helping future friendships between the two countries.


Y plant yn gadael Abertawe

Ym mis Ionawr 1938, dychwelodd saith bachgen a phedair merch o Dŷ Parc Sgeti i Sbaen. Dychwelodd sawl un arall ym mis Mawrth. Ym mis Mai 1938, trosglwyddwyd gweddill y plant o Dŷ Parc Sgeti i'r drefedigaeth Fasgaidd yng Nghaerleon.

Mae'r plant wedi mynd ond rydym yn eu cofio. Fe'u hanfarwolir yng nghasgliad y ffotograffau o ffoaduriaid o Wlad y Basg a roddwyd i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg (P/ES1/NBR 1-112 yw eu cyfeiriad).

Dyma fersiynau cryno-lun o'r 112 o luniau a gynhwysir yn y casgliad hwn, (PDF) [7MB]

Gallwch chi ymweld â'r Archifdy i'w gweld yn bersonol, neu gysylltu â ni am ragor o wybodaeth.

► Back to the first page

Close Dewis iaith