Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Gwybodaeth pwysig i chi wybod amdano cyn i chi ymweld ag Archifau Gorllewin Morgannwg.
1. Hygyrchedd yr Adeilad
Parcio: Mae 16 lle parcio penodol ar gyfer pobl anabl sy'n ymweld â'r Ganolfan Ddinesig. O'r rhain mae 4 lle wedi'u lleoli wrth waelod y ramp mynediad i'r brif fynedfa. Mae 12 lle pellach ar gael yn Maes Parcio'r Dwyrain.
Mae mynediad i'r Ganolfan Ddinesig drwy fynedfa awtomatig ar yr un lefel â Maes Parcio'r Dwyrain. Mae pob ardal gyhoeddus yn y Ganolfan Ddinesig yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn.
Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg ar lawr gwaelod y Ganolfan Ddinesig, ac yn llwyr hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae mynediad awtomatig yn galluogi mynediad hwylus.
Anifeiliaid: Croesewir cŵn tywys. Ni chaniateir unrhyw anifeiliaid eraill yn y Ganolfan Ddinesig.
Toiledau: Mae toiledau hygyrch ar lawr gwaelod y Ganolfan Ddinesig, ger y brif dderbynfa. Yn ogystal, mae ystafell newid ger y brif dderbynfa. Darpara hyn gyfleusterau toiled hygyrch i bobl ag anawsterau dysgu difrifol a lluosog a phobl anabl eraill sy'n methu defnyddio toiledau hygyrch safonol. Darpara'r cyfleuster le ychwanegol ar gyfer pobl anabl â'u cynorthwywyr neu ofalwyr personol, a mainc newid y gellir addasu ei huchder a theclyn codi.
Mae cyfleusterau newid babanod ar gael ger prif dderbynfa'r Ganolfan Ddinesig.
Lluniaeth: Mae Caffi'r Glannau ar lawr gwaelod y Ganolfan Ddinesig, ger y brif dderbynfa.
2. Ymholiadau a derbyniadau
Mae taflenni gwybodaeth ar gael ar ffurf print safonol a phrint mawr.
Mae gan bob desg a chownter ymholiadau adrannau is ac mae systemau dolen ar gael.
Seddau: mae dewis o seddau gyda breichiau a heb freichiau ar gael yn Ystafell Chwilio'r Archifau.
3. Gweithdrefnau Argyfwng
Os bydd argyfwng/gorfod gwacáu, os yw hi'n ddiogel gwneud hynny, dylai pob ymwelydd adael yr adeilad drwy'r allanfa argyfwng ar y llawr gwaelod, ger Derbynfa'r Archifau. Bydd staff y Gwasanaeth Archifau'n cyfeirio ymwelwyr at yr allanfa hon.
4. Defnyddio'r Ganolfan Hanes Teulu ac Ystafell Chwilio'r Archif
Mae chwyddwydrauar gael i'w benthyg o'r desgiau ymholiadau.
Mae chwyddwydr fideo Quicklook hefyd ar gael i'w fenthyg o'r desgiau ymholiadau. Gellir defnyddio'r teclyn llaw hwn i ehangu'r testun ar sgrîn arddangos er mwyn hwyluso'i ddarllen.
5. Gwybodaeth bellach
Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad eraill, neu os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â ni.