Toglo gwelededd dewislen symudol

Archifau - Neuadd y Ddinas yn agor ei drysau

Wedi'i chynllunio'n wreiddiol ar gyfer y 18fed, cynhaliwyd y seremoni agoriadol ddydd Mawrth 23 Hydref.

Opens its doors
Diwrnod hydref llaith ydoedd, ond serch hynny daeth torfeydd o bobl Abertawe i weld Ei Uchelder Brenhinol Dug Caint yn cyrraedd. Cyfarchwyd y Dug gan y Maer, Alderman Edward Harris, a phwysigion dinesig eraill yn Oriel Gelf Glynn Vivian. Pan gyrhaeddodd Neuadd y Ddinas, cyfarfu â chynfilwyr y Rhyfel Byd Cyntaf, a chael allwedd seremonïol oddi wrth y pensaer, Percy Thomas.

Cynhaliwyd rhan bwysicaf y dydd yn Neuadd Brangwyn, lle datganodd y Dug fod Neuadd y Ddinas yn agored i'r cyhoedd ei defnyddio. Cafwyd cinio pum cwrs wedyn ym Mhafiliwn Patti. Ar ôl cinio, ymwelodd y Dug â safleoedd eraill yn y dref, gan gynnwys yr ystâd dai newydd yn Townhill, Ysgol Townhill a Chenhadaeth y Morwyr, cyn gadael o orsaf y Stryd Fawr. Darparwyd cerddoriaeth gan Fand Heddlu Bwrdeistref Abertawe, Côr Meibion Abertawe a'r Cylch ac unawdwyr, a Dr W. H. Harris, organydd Capel San Siôr, Windsor.

Ysgrifennodd y Maer, "Gobeithiaf y bydd yr adeiladau newydd yn arwain at wneud Abertawe'n dref ein delfrydau, y bydd cyfiawnder, fel yn y gorffennol, yn cael ei weinyddu yn y Llysoedd Barn newydd heb ofn na ffafr, ac y bydd traddodiadau gorau ac aruchaf Llywodraeth Leol yn parhau a chael eu datblygu yn yr Ystafelloedd Cyngor newydd, yn ogystal ag yn y swyddfeydd gweinyddol newydd, er lles bythol y Dref a lles cyffredinol y Gymuned."

Rhai ffeithiau a ffigurau:

  • Mae'r twr yn 160 troedfedd o uchder, ac mae pob wyneb yn gogwyddo i mewn 12 modfedd tua'r brig.
  • Cyflwynwyd y cloc i'r Cyngor gan J. T. Morgan o Abertawe, 'fel arwydd o'i barch uchel am dref ei fabwysiad ac o'i werthfawrogiad o falchder dinesig ei phobl.'
  • Yn yr ystafell gyngor, mae digon o seddi i 60 o aelodau, ynghyd â swyddogion, aelodau'r cyhoedd a'r wasg. Mae'r colofnau'n 22 troedfedd o uchder ac wedi'u hadeiladu o goed collen Ffrengig Awstraliaidd.
  • Mae'r penddelwau efydd y tu allan i'r ystafell gyngor yn dangos David Matthews, David Williams a Percy Morris, ASau dros Ddwyrain Abertawe 1919-22, 1922-40 a 1945-59, a David Rhys Grenfell, AS dros Gwyr 1922-59.
  • Mae'r gwayw-fwyeill trefol yn ystafell y maer yn dyddio o'r 18fed ganrif ac wedi'u defnyddio'n seremonïaidd ym mhob un o dri adeilad Neuadd y Ddinas a ddisgrifiwyd yn yr arddangosfa hon.
  • Mae Neuadd Brangwyn yn 160 troedfedd o hyd, 62 troedfedd o led a 44 troedfedd o uchder. Mae ganddi seddi i fwy na 1300 o bobl.
  • Mae llawr Neuadd Brangwyn yn gallu cael ei addasu ar gyfer dawnsio.
  • Cymerodd Paneli Brangwyn saith mlynedd i'w cwblhau, ac maent yn mesur cyfanswm o 3000 troedfedd sgwâr.

'Nol at y dechrau

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Tachwedd 2024