Toglo gwelededd dewislen symudol

Parciau Abertawe

Y llyn ym Mharc Brynmill (cyfeiriad llun D/D RMD 1/10/6)

Yn wreiddiol, cwblhawyd y gronfa ddŵr ym Mharc Brynmill i gyflenwi dŵr i'r dref ym 1839. Aeth yn ganolbwynt parc ffurfiol cyntaf Abertawe ym 1872, a chanrif yn ôl roedd pobl lleol yn bwydo'r hwyaid fel rydyn ni heddiw.

Yn y pellter gellir gweld Townhill. Yn y dyddiau yna, roedd heb ei ddatblygu. Yn gytir gynt, cafodd ei rannu i ffermydd yn yr 18fed ganrif hwyr. Cafodd yr ystad dai rydyn ni'n ei gwybod heddiw ei chynllunio cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond ni chafodd ei hadeiladu tan wedyn.

Isod, i'r dde, gallwch chi weld chwech fila-pâr Fictoriaidd. Mae rhein wedi mynd yn Nhŷ Beck Prifysgol Abertawe erbyn hyn.

Oes diddordeb mewn hanes Townhill? Rydyn ni wedi gwneud arddangosfa arall am sut cafodd yr ystad ei hadeiladu.

[Awgrymiad: cliciwch y llun i'w weld yn fanwl]

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Ionawr 2023