Yr Ail Ryfel Byd
Y Blitz Tair Noson
Bydd grwpiau'n cael eu cyflwyno i nifer o ddogfennau gwreiddiol a grëwyd yn ystod y Blitz Tair Noson gan gynnwys ffotograffau, cofnodion ysgol, papurau newydd, dyddiaduron, hanesion llafar, rhestr o'r rhai a fu farw a map targedau'r Luftwaffe. Gallwn hefyd ehangu'r pwnc i gynnwys y Ffrynt Cartref. Mae'r rhan fwyaf o'r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer y pwnc hwn hefyd ar gael am ddim i'w defnyddio ar ein gwefan.
Ffoaduriaid Iddewig, 1933-1939
Lluniwyd y sesiwn hon i helpu myfyrwyr i ddysgu mwy am hanes ffoaduriaid Iddewig a ddihangodd rhag erlyniad yn yr Almaen Natsiaidd rhwng 1933 a 1939.Gan ddefnyddio dogfennau gwreiddiol, bydd myfyrwyr yn archwilio stori emosiynol Kindertransport, cenhadaeth a achubodd 10,000 o blant Iddewig rhag y Natsïaid rhwng mis Tachwedd 1938 a mis Medi 1939. Rhoddir sylw arbennig i straeon bywyd dau oroeswr Kindertransport a ddaeth i fyw i Abertawe, sef Ellen Davis a Henry Foner. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ddysgu sut yr elwodd pobl de Cymru o ddyfodiad ffoaduriaid Iddewig a oedd yn ddiwydianwyr ac yn feddygon yn y cyfnod wedi'r rhyfel. Gall y sesiwn hon helpu athrawon i baratoi ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost ar 27 Ionawr.
Lefel cynnydd: 1-5 (gellir ei addasu)
Oedran targed: Bl 1-9 (gellir ei addasu)
Hyd y sesiwn: 1 i 2 awr
Maes Dysgu: Dyniaethau
Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig: 1-5
Sgiliau Trawsgwricwlaidd: Llythrennedd; Rhifedd, Meddwl yn Greadigol a Datrys Problemau; Creadigrwydd a Blaengaredd; Effeithiolrwydd Personol
Cost: £50.00
Lleoliad: Ystafell ymchwil yr Archifau neu drwy Teams
Am ragor o wybodaeth neu i wneud trefniant, cysylltwch â: archifau@abertawe.gov.uk