Astudiaeth Ardal Bwrpasol
Bydd eich disgyblion yn gosod y cwestiynau. Beth maen nhw eisiau ei ddarganfod am eu hardal leol? Byddwn yn cyfarfod ar Teams ar gyfer cyflwyniadau a throsolwg o sut gall yr Archifau helpu gyda phrosiect ymchwil sy'n edrych ar eich ardal. Yna bydd disgyblion yn gofyn cwestiynau am eu hardal leol yr hoffent gael gwybod amdani. Yna byddant yn ymweld â ni yn yr Archifau (tua phythefnos yn ddiweddarach) ac yn mynd ati i ymchwilio.
Mae sesiynau nodweddiadol yn cynnwys y dogfennau canlynol: cyfrifiad, mapiau, ffotograffau, cyfeirlyfrau masnach, erthyglau papur newydd, cofnodion bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau.
Yn bwysicaf oll, mae ein holl ddogfennau'n rhai lleol. Gallwn helpu i adrodd hanes eich ardal leol.
Lefel cynnydd: 1-5 (gellir ei addasu)
Oedran targed: Bl 1-9 (gellir ei addasu)
Hyd y sesiwn: 1 i 2 awr
Maes Dysgu: Dyniaethau
Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig: 1-5
Sgiliau Trawsgwricwlaidd: Llythrennedd; Rhifedd, Meddwl yn Greadigol a Datrys Problemau; Creadigrwydd a Blaengaredd; Effeithiolrwydd Personol
Cost: £50.00
Lleoliad: Ystafell ymchwil yr Archifau neu drwy Teams
Am ragor o wybodaeth neu i wneud trefniant, cysylltwch â: archifau@abertawe.gov.uk