Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Fictoriaid

Victorians

Mae'n debyg mai oes Fictoria yw ein pwynt cryfaf. Os ydych chi'n astudio'r Fictoriaid yna cysylltwch â ni. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn addysg, iechyd, trosedd a chosb, diwydiannu neu hanes eich ardal, gallwn eich helpu chi a'ch disgyblion i ddarganfod llawer mwy am yr hyn a oedd yn digwydd yn eich ardal yn ystod oes Fictoria. Mae ein holl ddogfennau'n rhai lleol felly rydym yn canolbwyntio ar yr hyn a oedd yn digwydd yn ein hardal ni yn unig!

Mae rhai o'r sesiynau mwyaf diweddar a gynhaliwyd gennym yn cynnwys:
Terfysgoedd Beca ym Mhontarddulais; William Boatwright: bachgen drwg Fictoraidd a drodd ddalen newydd i fod yn ddyn da; Trychineb Glofa'r Elba; Hanes Tŷ Glyncollen; Dociau, afon a phontydd Abertawe; Treialon Mwg Copr yr Hafod, 1833

Os oes gennych chi a'ch disgyblion rywbeth gwahanol mewn golwg, cysylltwch â ni a byddwn yn rhoi cyngor ar yr hyn y gallwn ei wneud.

 

Lefel cynnydd: 1-5 (gellir ei addasu)

Oedran targed: Bl 1-9 (gellir ei addasu)

Hyd y sesiwn: 1 i 2 awr

Maes Dysgu: Dyniaethau

Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig: 1-5

Sgiliau Trawsgwricwlaidd: Llythrennedd; Rhifedd, Meddwl yn Greadigol a Datrys Problemau; Creadigrwydd a Blaengaredd; Effeithiolrwydd Personol

Cost: £50.00

Lleoliad: Ystafell ymchwil yr Archifau neu drwy Teams

Am ragor o wybodaeth neu i wneud trefniant, cysylltwch â: archifau@abertawe.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Medi 2023