Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Llychlynwyr a sefydlu Abertawe

Vikings

Pwy sefydlodd Abertawe? Ai Llychlynnwr o'r enw Swein oedd e'? Bydd y disgyblion yn edrych ar amrywiaeth o ddogfennau ac yn pwyso a mesur y siawns o Abertawe'n cael ei henwi ar ôl Llychlynnwr. Neu a yw'r enw'n dod o rywle arall? Bydd y disgyblion hefyd yn archwilio rhai o'n siarteri cynharaf ac yn darganfod pryd y rhoddwyd statws bwrdeistref i Abertawe am y tro cyntaf.

 

Lefel cynnydd: 1-5 (gellir ei addasu)

Oedran targed: Bl 1-9 (gellir ei addasu)

Hyd y sesiwn: 1 i 2 awr

Maes Dysgu: Dyniaethau

Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig: 1-5

Sgiliau Trawsgwricwlaidd: Llythrennedd; Rhifedd, Meddwl yn Greadigol a Datrys Problemau; Creadigrwydd a Blaengaredd; Effeithiolrwydd Personol

Cost: £50.00

Lleoliad: Ystafell ymchwil yr Archifau neu drwy Teams

Am ragor o wybodaeth neu i wneud trefniant, cysylltwch â: archifau@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith