Y Rhufeiniaid
Daeth y Rhufeiniaid i Gymru yn bendant, ond pa dystiolaeth sydd?
Bydd disgyblion yn gweithio mewn 4 tîm, gyda phob un yn canolbwyntio ar ardal wahanol (Castell-nedd, Casllwchwr, Cwm Dulais, Ystumllwynarth), gyda rhestr o oddeutu 5 safle yn eu hardal i ymchwilio. Byddant yn defnyddio gwefannau archeolegol ('Archwilio' a 'Coflein') i ddarganfod y safleoedd Rhufeinig lleol ynghyd â chyfeirnod map 6 ffigur, y bydd yn rhaid iddynt ddod o hyd iddo wedyn a'i blotio yn ein "Map Darganfyddiadau". Bydd y disgyblion yn defnyddio ffotograffau, darluniau, cynlluniau ac erthyglau cyfnodolion sy'n ymwneud â'r cloddiadau i ddarganfod mwy am bob safle, gan wneud eu brasluniau eu hunain i ychwanegu at y "Map Darganfyddiadau".
Unwaith bydd yr holl safleoedd/ddarganfyddiadau wedi'u plotio ar y map, dylem weld bod cydberthyniad pendant rhwng y safleoedd a llwybr syth hyfryd yr oedd y Rhufeiniaid yn gorymdeithio ar ei hyd.
Lefel cynnydd: 1-5 (gellir ei addasu)
Oedran targed: Bl 1-9 (gellir ei addasu)
Hyd y sesiwn: 1 i 2 awr
Maes Dysgu: Dyniaethau
Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig: 1-5
Sgiliau Trawsgwricwlaidd: Llythrennedd; Rhifedd, Meddwl yn Greadigol a Datrys Problemau; Creadigrwydd a Blaengaredd; Effeithiolrwydd Personol
Cost: £50.00
Lleoliad: Ystafell ymchwil yr Archifau neu drwy Teams
Am ragor o wybodaeth neu i wneud trefniant, cysylltwch â: archifau@abertawe.gov.uk