Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Rhyfel Byd Cyntaf

First World War

Bydd myfyrwyr yn archwilio'r rôl bwysig a oedd gan fenywod yn y rhyfel fel gweithwyr arfau rhyfel, nyrsys a Merched y Tir. Byddwn hefyd yn rhoi sylw i stori emosiynol gwrthwynebwyr cydwybodol lleol. Gwrthododd y dynion hyn ymladd yn y rhyfel oherwydd eu credoau crefyddol a gwleidyddol. A oedd gwrthwynebwyr cydwybodol yn llwfrgwn neu'n arwyr?

Roedd gan Abertawe ei bataliwn 'cyfeillion' lleol ei hun. Dysgwch am eu haberth ofnadwy yng Nghoedwig Mametz ym 1916. Beth oedd manteision ac anfanteision bataliynau 'cyfeillion' lleol? Cyn y rhyfel, priododd miloedd o ddynion Almaenaidd fenywod lleol gan ymgartrefu yn ne Cymru. Dewch o hyd i'r hyn a ddigwyddodd i'r teuluoedd hyn pan ddatganodd Prydain ryfel ar yr Almaen ym 1914.

Mae sesiynau diweddar eraill yn cynnwys:
Ymchwilio i enwau ar eich Cofgolofn Rhyfel lleol. Bydd disgyblion yn defnyddio adnoddau amrywiol ar y we i ddarganfod mwy am y dynion lleol a fu'n ymladd ac a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn ogystal â'r teuluoedd a adawsant ar ôl. Bydd disgyblion hefyd yn cael cyfle i ddysgu mwy am fywydau menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r gwahanol rolau a gyflawnwyd ganddynt.

 

Lefel cynnydd: 1-5 (gellir ei addasu)

Oedran targed: Bl 1-9 (gellir ei addasu)

Hyd y sesiwn: 1 i 2 awr

Maes Dysgu: Dyniaethau

Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig: 1-5

Sgiliau Trawsgwricwlaidd: Llythrennedd; Rhifedd, Meddwl yn Greadigol a Datrys Problemau; Creadigrwydd a Blaengaredd; Effeithiolrwydd Personol

Cost: £50.00

Lleoliad: Ystafell ymchwil yr Archifau neu drwy Teams

Am ragor o wybodaeth neu i wneud trefniant, cysylltwch â: archifau@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Medi 2023