Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Tuduriaid a'r Stiwartiaid

Tudors and Stuarts

Mae gennym ddwy sesiwn a baratowyd ymlaen llaw yn seiliedig ar y Tuduriaid a'r Stiwartiaid.

Y Tuduriaid wrth eu gwaith

Bydd disgyblion yn defnyddio cytundebau prentisiaeth i ddysgu mwy am fywydau gwaith pobl ifanc yn ardal Abertawe yn ystod oes y Tuduriaid. Byddwn yn trafod cysyniad prentis a meistr; y mathau o swyddi a gafwyd yn ystod oes y Tuduriaid a manteision ac anfanteision dysgu crefft. Bydd disgyblion hefyd yn cael cyfle i wneud eu cytundebau prentisiaeth eu hunain.

Y Tuduriaid gartref

Bydd disgyblion yn defnyddio ewyllys a rhestr eiddo John Morris, gŵr bonheddig o Abertawe i ddarganfod mwy am fywyd y Tuduriaid yn Abertawe. Bydd y disgyblion yn darganfod y celfi a'r eitemau yr oedd gan John Morris yn ei gartref a faint oedd gwerth yr eitemau yn oes y Tuduriaid, yna byddant yn defnyddio troswr arian cyfred i ddarganfod beth yw gwerth yr eitemau hyn heddiw. Bydd y disgyblion hefyd yn cael cyfle i ddylunio'u tŷ Tuduraidd eu hunain gan ddefnyddio'r disgrifiadau yn yr ewyllys.

 

Lefel cynnydd: 1-5 (gellir ei addasu)

Oedran targed: Bl 1-9 (gellir ei addasu)

Hyd y sesiwn: 1 i 2 awr

Maes Dysgu: Dyniaethau

Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig: 1-5

Sgiliau Trawsgwricwlaidd: Llythrennedd; Rhifedd, Meddwl yn Greadigol a Datrys Problemau; Creadigrwydd a Blaengaredd; Effeithiolrwydd Personol

Cost: £50.00

Lleoliad: Ystafell ymchwil yr Archifau neu drwy Teams

Am ragor o wybodaeth neu i wneud trefniant, cysylltwch â: archifau@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Medi 2023