Ardal gadwraeth - Llanrhidian
Dyddiad cyflwyno: 05.06.1996
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 4969092250
A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 49 SE
Rhif yr ardal gadwraeth: CA:030
Nodiadau:
Mae'r enw Llanrhidian yn dynodi anheddiad Cristnogol y Sant Celtaidd Rhidian, y mae'r eglwys wedi'i chysegru iddo. Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r 12fed - 13eg ganrif, er mae bron bob rhan ohoni heblaw'r tŵr wedi'u hadnewyddu.
Mae gorchudd bedd "hopgefn" neu gefngrwm yn dyddio o'r 10fed ganrif, a adwaenir fel "Carreg y Gwahanglaf" bellach yn gorwedd ym mhorth yr eglwys. Mae'r garreg fedd hon o fath a welir yn aml yn yr Alban ond mae'n unigryw yng Nghymru. Mae dau faen hir ar y lawnt yn sefyll ar bob ochr i'r ffordd fynediad i'r eglwys. Mae'n ymddangos mai paladr croes mynwent eglwys Geltaidd yw un ohonynt; maen mawr cynhanesyddol yw'r llall. (Fe'u codwyd yn eu lleoliad presennol gan y pentrefwyr ym 1821 ac ym 1844 gydag anogaeth y Ficer).
Yn agos i'r eglwys "mae llif o ddŵr yn ffrydio gyda chryn wylltineb o'r graig galchfaen", ac mae wedi darparu ffynhonnell bŵer ar gyfer malu ers cyn y Goncwest. Daw cyfeiriad cynnar at y melinau o brydles a roddwyd gan Arglwydd y Faenor, Iarll Warwig, ym 1275. Mae'r felin isaf, gydag adeilad od ddiwedd y 18fed ganrif, yn goroesi. Cloddiwyd safle'r felin uchaf yn ddiweddar ac yno darganfuwyd olion melin a ailadeiladwyd yn hwyr yn y 17eg ganrif yn ôl pob tebyg.
Mae'n hysbys bod sawl melin arall wedi bodoli ar y cwrs dŵr rhyngddo, gan gynnwys "pandy" neu felin ban ar gyfer gwlân.
Cloddiwyd cerrig yn Llanrhidian hefyd, ac ers y 18fed ganrif, fe'u llosgwyd i gael calch. Mae olion odyn galch yn gorwedd o fewn 60m i'r eglwys.
Gyda'i gilydd, mae plwyfi Llanrhidian Uchaf ac Isaf yn llenwi llawer o ucheldir gogledd Gŵyr, a daeth cyfoeth yr ardal hon yn y cyfnodau cynnar o ddefaid.
Mae ffin ddrafft yr Ardal Gadwraeth yn cynnwys yr eglwys a'r fynwent, maes y pentref a'r ffordd sy'n dod i lawr heibio iddo, y clwstwr o dai ar y llethr islaw'r eglwys, y clogwyn a'r odynnau calch uwch ei phen, y creigiau calchfaen y mae nant y felin yn tarddu o'u godre a chwrs y nant oddi yno i'r gors. Mae hefyd yn cynnwys, oherwydd eu pwysigrwydd i leoliad yr eglwys, yr adeiladau sy'n edrych yn uniongyrchol drosti.
Yn weledol, mae disgyniad dramatig heibio i'r adeiladau hyn i ble mae'r maes pentref sy'n goleddfu'n serth gyda'i feini hirion yn wynebu ehangder llydan y gors a'r traeth. O'r maes pentref, gellir gweld yr eglwys mewn perthynas â'r clogwyn calchfaen, sy'n gawraidd wrth ei hochr.
Mae trac yn arwain uwchben mynwent yr eglwys ar hyd ysgafell ar ogwydd gydag olion tŷ ar ei phen i'r odynnau, y ffynnon a safle'r felin uchaf ger godre'r clogwyn.
Er bod olion y melinau'n hŷn, mae cnewyllyn yr adeiladau yn yr Ardal Gadwraeth ddrafft o gymeriad sy'n perthyn i'r ddechrau neu ganol y 19eg ganrif. Mae eu tystiolaeth hwy - gyda'r ddwy dafarn hyn - yn awgrymu cyfnod o ffyniant yn seiliedig ar amrywiaeth y gweithgarwch lleol, ond yn bell o'r glofeydd a'r gweithfeydd metel a oedd yn flaenllaw yn yr ardal amgylchynol ar yr un pryd.
(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)