Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardaloedd cadwraeth

Ardal gadwraeth yw'r enw am ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y mae'n ddymunol diogelu neu wella ei chymeriad neu ei gwedd.

Mewn ardal cadwraeth

Pwysleisir safon ardal benodol yn hytrach nag adeiladau unigol, er enghraifft, gall grwpiau o adeiladau, mannau agored, patrymau strydoedd neu goed i gyd fod yn elfennau pwysig sy'n rhoi naws arbennig i ardal.

Mae'n ddyletswydd ar y cyngor i nodi ardaloedd o fewn Dinas a Sir Abertawe y mae eu cymeriad yn haeddu cael ei warchod a'u dynodi'n ardaloedd cadwraeth. 

Wrth gydnabod ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, mae 31 o ardaloedd cadwraeth wedi'u dynodi yn Ninas a Sir Abertawe ar hyn o bryd. Maent yn amrywio'n fawr o ran eu cymeriad, oherwydd amrywiaeth yr anheddau a geir yn yr ardal, o bentrefi bychan megis Penrhys a Cheriton i drefi megis Treforys neu ardaloedd trefol megis Stryd y Gwynt a'r Mwmbwls.

Arweiniad i breswylwyr a pherchnogion eiddo mewn ardaloedd cadwraeth

Rydym wedi llunio nodyn arweiniol i breswylwyr a pherchnogion eiddo yn yr ardaloedd cadwraeth. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, dechreuwch drwy ddarllen y lawrlwythiad isod a chysylltwch â ni os oes angen mwy o wybodaeth arnoch. Sylwer bod gwasanaeth cyngor cyn cyflwyno cais ar gael bellach ar gyfer cynigion datblygu a chodir tâl ar wahân am hwn.

Rydym wedi paratoi  nodyn cyfarwyddyd i drigolion a pherchnogion eiddo yn yr ardaloedd cadwraeth areas (PDF, 719 KB). Os oes gennych unrhyw ymholiadau, dechreuwch trwy ddarllen trwy'r lawrlwythiad isod a chysylltwch â ni os oes angen mwy o wybodaeth arnoch. Sylwch fod yna Cyngor safonol cyn cyflwyno cais cynllunio codi tâl ar wahân bellach ar gyfer cynigion datblygu.

Ceisiadau cynllunio mewn ardaloedd cadwraeth

Wrth ystyried cais i ddatblygu mewn ardal gadwraeth, mae gennym gyfrifoldeb i roi sylw arbennig i ddymunoldeb cadw neu wella cymeriad neu wedd yr ardal. Caiff y cais ei hysbysebu yn y papur newydd lleol ac arddangosir hysbysiad ar y safle neu gerllaw. Fel arfer, bydd yr Adran Gynllunio'n gofyn am gynlluniau manwl yn hytrach nag ymdrin â cheisiadau amlinellol, fel y gellir asesu effaith y cynigion yn drylwyr.

Wrth benderfynu a ddylid caniatáu datblygiad newydd, dylid rhoi sylw penodol i'w leoliad, ei raddfa, ei ffurf, y deunyddiau a ddefnyddir, y manylion addurnol, a'r tirweddu. Ni chaiff dyluniadau cyfoes eu gwrthod mewn ardaloedd cadwraeth o angenrheidrwydd, ond mae'n rhaid eu bod yn seiliedig ar gydymdeimlad mawr at yr ardal ac yn cydweddu'n dda â'r adeiladau a'r lleoedd o'u cwmpas. Mae rheolaethau arbennig ychwanegol yn berthnasol i adeiladau rhestredig.

Os ydych yn rhagweld ymgymryd â gwaith datblygu, addasu, neu estyn adeiladau sydd eisoes yn bodoli mewn ardaloedd cadwraeth, rydym yn eich annog i gyflogi dyluniwr profiadol ag enw da am weithio mewn amgylcheddau sensitif, ac sy'n ymwybodol o'r arddull pensaernïol cynhenid lleol, rhywun sydd ag arbenigedd yn y maes hwn a phrofiad o ofynion yr awdurdod lleol.

Gellir gwneud cais am Ganiatâd Ardal Gadwraeth yma Y porth cynllunio (Yn agor ffenestr newydd)

Datblygu nesaf at ardal gadwraeth

Bydd y cyngor yn ystyried yn ofalus a yw datblygu nesaf at ardal gadwraeth yn cadw neu'n gwella cyffiniau'r ardal ddynodedig.

Dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth

Mae angen caniatâd arbennig o'r enw Caniatâd Ardal Gadwraeth i ddymchwel neu i ddymchwel yn rhannol unrhyw adeilad, ar wahân i'r rhai lleiaf, o fewn ardaloedd cadwraeth. Felly, dylech bob amser gysylltu â'r Adran Gynllunio i ganfod a oes angen caniatâd ai peidio.

Gellir cael rhagor o gyngor ar Ganiatâd Ardal Gadwraeth drwy'r  Porth Cynllunio - Nodiadau Arweiniol ar gyfer Caniatâd Ardal Gadwraeth (PDF, 48 KB).

Datblygu a ganiateir

Gellir ymgymryd â mân addasiadau ac estyniadau bach iawn i anheddau heb ganiatâd cynllunio mewn ardaloedd cadwraeth.

Mae cyfyngiadau eraill yn berthnasol ym mhob ardal gadwraeth ac mae'r cyngor wedi pennu rheolaethau cynllunio eraill o'r enw Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn yr ardaloedd cadwraeth canlynol:

  • Yr Ardal Forol 
  • Penclawdd
  • Y Mwmbwls
  • Rhosili
  • Horton
  • Porth Einon
  • Llangynydd
  • Reynoldston
  • Holt's Field

Rhoddwyd y rhain ar waith pan ddaeth yn amlwg bod addasiadau amhriodol ac anghydnaws, ynghyd a deunyddiau anaddas, yn effeithio ar wedd yr ardaloedd cadwraeth.

Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn dileu rhai o'ch hawliau ynghylch datblygu a ganiateir ac mae'n golygu bod angen cael cymeradwyaeth yr awdurdod cynllunio i wneud gwaith penodol a ddiffinnir yn y cyfarwyddyd.

Ni fydd angen talu ffi i gyflwyno ceisiadau cynllunio o'r math hwn.

Dynodi ardaloedd cadwraeth a lleoliadau

Mae Ardaloedd Cadwraeth wedi'u dynodi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol o dan adran 158/159 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023. Y prif ystyriaethau yw'r diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y mae'n ddymunol gwarchod neu wella ei chymeriad neu ei gwedd.

Nid yw dynodi lle yn Ardal Gadwraeth yn golygu na all unrhyw newid ddigwydd neu mai dim ond dyluniadau traddodiadol a ganiateir. Yn hytrach, mae dynodiad yn ei gwneud yn ofynnol i roi sylw arbennig i effaith datblygiad arfaethedig yn yr ardal honno fel a nodir ym mholisïau HC1 a HC2 y CDLl, a'r brif ystyriaeth yw a yw unrhyw newid yn 'cadw neu'n gwella' cymeriad yr ardal gadwraeth.

Mae deddfwriaeth yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cynllunio lleol i adolygu ardaloedd cadwraeth 'o bryd i'w gilydd'. Bydd pob un o'r ardaloedd cadwraeth isod yn cael eu hadolygu i gyflwyno cynigion i'w cadw a'u gwella ac i ddarparu sylfaen dystiolaeth gadarn i asesu'r angen am gyfarwyddyd Erthygl 4 a'i gwmpas.

Mae 31 o ardaloedd cadwraeth yn Abertawe ar hyn o bryd.
Mae ardaloedd cadwraeth Y Mwmbwls, Treforys a Ffynone ac Uplands wedi'u hadolygu'n ddiweddar a mabwysiadwyd y dogfennau adolygu fel canllawiau cynllunio atodol o ganlyniad i hynny. Adolygiadau ardaloedd gadwraeth cwblhawyd.

Mae'r 28 ardal gadwraeth dilynol wedi'u cefnogi ar hyn o bryd gan nodiadau anffurfiol yn unig, gan gynnwys cynlluniau ffiniau a disgrifiad cyfyngedig o'r ardal.

 

Gellir gweld ffiniau holl ardaloedd cadwraeth Cymru yn MapDataCymru.

Mae manylion yr Ardal Gadwraeth yn cael eu cadw gan Gyngor Abertawe ac yn cael eu cyfieithu ar hyn o bryd. Unwaith y bydd y manylion ar gael yn ddwyieithog byddant yn cael eu hychwanegu at y wefan hon.

Am ragor o wybodaeth am ardaloedd cadwraeth, gweler wefan Cadw (Yn agor ffenestr newydd).

 

Adolygiadau Ardaloedd Cadwraeth cwblhawyd

Bydd yr arfarniadau Ardal Gadwraeth yn cael ei gynhyrchu mewn ymgynghoriad â chymunedau a rhanddeiliaid lleol a bydd y dogfennau terfynol yn cael eu mabwysiadu fel canllawiau cynllunio atodol i Bolisïau HC 1 a HC 2 y CDLl.

Ardal gadwraeth - Alexandra Road

Dyddiad cyflwyno: 1986

Ardal gadwraeth - Llandeilo Ferwallt

Dyddiad cyflwyno: 05.08.1993

Ardal gadwraeth - Cheriton

Dyddiad cyflwyno: 1972

Ardal gadwraeth - Horton

Dyddiad cyflwyno: 1972

Ardal gadwraeth - Landimôr

Dyddiad cyflwyno: 1973

Ardal gadwraeth - Bae Langland

Dyddiad cyflwyno: 02.07.1992

Ardal gadwraeth - Llangynydd

Dyddiad cyflwyno: 1977

Ardal gadwraeth - Llanmadog

Dyddiad cyflwyno: 1973

Ardal gadwraeth - Llanrhidian

Dyddiad cyflwyno: 05.06.1996

Ardal gadwraeth - Llansamlet

Dyddiad cyflwyno: 06.04.1995
  • Blaenorol tudalen
  • 1
  • 2
  • 3
  • o 3
  • Nesaf tudalen
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Chwefror 2025