Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal gadwraeth - Llansamlet

Dyddiad cyflwyno: 06.04.1995

Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 6870097900

A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 69 NE

Rhif yr ardal gadwraeth: CA:027

Nodiadau:

Mae cymuned Llansamlet yng ngogledd-ddwyrain Abertawe, tua 5 milltir o ganol y ddinas. Datblygodd y gymuned yn wreiddiol o gwmpas y pyllau lleol ac yna yn ddiweddarach ar hyd y ffordd, sef yr A48 yn awr rhwng Castell-nedd a Threforys. Mae'r ardal gadwraeth arfaethedig yn cynnwys yr ardal breswyl o gwmpas eglwys Sant Samlet, ac mae'n estyn i'r gogledd ac i'r de-orllewin ar hyd Walters Road, gan ddod i ben ar hyd ffin Camlas Smith.

O'r cyfnod Tuduraidd tan ddechrau'r ganrif hon, roedd codi glo yn bwysig ym mhlwyf Llansamlet, gyda'r pentref yn datblygu o gwmpas y pyllau, ac adeiladwyd y gamlas, y tramffyrdd a'r rheilffyrdd i wasanaethu'r pyllau hyn.

Roedd codi glo'n gatalydd ar gyfer y datblygiad diwydiannol a fyddai'n newid Cwm Tawe Isaf yn ganolfan fetelegol y byd yn y 19eg ganrif.

Fodd bynnag, mae codi glo ynghyd â diwydiannau trwm eraill wedi dod i ben ers tro, ond mae'r tai a adeiladwyd ar gyfer y gweithwyr a'u teuluoedd wedi goroesi i raddau helaeth. Mae treftadaeth ddiwydiannol gref yr ardal wedi'i chydnabod drwy gynnwys "Dyfrffos Fawr a Ffordd Wageni Townshend" a "Thŷ'r Injan Gwernllwynchwith" ar y Rhestr Henebion.

Mae cymeriad y pentref i'w weld yn bennaf yn nhai teras y glowyr a'r tai mwy ar gyfer crefftwyr a masnachwyr a fu'n gwasanaethu'r gymuned a'r pyllau o ddiwedd y 18fed ganrif. Mae'r tai hyn i gyd wedi'u hadeiladu'n sylweddol o gerrig, maent yn ddeulawr mewn uchder ac yn rhannu nodweddion cyffredin o ran maintioli a graddfa sydd wedi goroesi'r ail-doi cyson mewn teils, rendro a gro chwipio ac amnewid yr hen ffenestri dalennog a'r drysau panelog pren â rhai uPVC. Mae rhai nodweddion eraill yn cynnwys grisiau cerrig a waliau gardd gyda haearn bwrw addurniadol - cynnyrch y ffowndrïau lleol mae'n siŵr - y mae'r cyfan yn cyfrannu at gymeriad yr ardal.

Mae'r pentref hefyd yn cynnwys eglwys y plwyf - Sant Samlet, sydd, i bob pwrpas, yn adeilad o'r 19eg ganrif, er ei fod ar safle hynafol, ac Ysgol Gymraeg Lôn Las, adeilad atyniadol ag iddi ffrâm bren a adeiladwyd ym 1929, y mae iddi arddull hynod drawiadol o hyd. Nid oes yr un o'r adeiladau yn yr ardal hon yn gynwysedig yn y rhestr o adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, ac felly nid ydynt yn elwa o unrhyw fesur o warchodaeth statudol.

(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Chwefror 2025