Ardal gadwraeth - Casllwchwr
Dyddiad cyflwyno: 17.08.1973
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 5640098000
A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 59 NE
Rhif yr ardal gadwraeth: CA:029
Nodiadau:
Mae Casllwchwr, y dref fwyaf gorllewinol ym Morgannwg, ryw saith milltir i'r gogledd-orllewin o Abertawe ar lan ddwyreiniol Afon Llwchwr lle caiff ei phontio gan yr A484 a'r brif linell reilffordd.
Datblygodd yr anheddiad hwn yn y man hwn gan fod yr afon yn culhau yma, a arweiniodd yn y cyfnodau cynharaf at sefydlu rhyd a chroesfan fferi.
Gwerthfawrogwyd ei bwysigrwydd yn ystod y goresgyniad Rhufeinig. Adeiladwyd Leucarum, gorsaf filwrol barhaol, ar ddiwedd y ganrif 1af CC ar bentir isel ond aruchel sy'n agos i, ac yn edrych dros y sarn a man glanio. Mae llinell yr adeiladwaith Rufeinig yn weladwy mewn sawl lle. Mae'r patrwm strydoedd presennol yn adlewyrchu'r cynllun Rhufeinig, yn enwedig o ran y pedair gât mynediad.
Parhaodd ei phwysigrwydd yng nghyfathrebu'r ardal, ac ym 1099 OC, codwyd amddiffynfa Normanaidd yng nghornel ddwyreiniol y gaer adfeiledig. Tŵr petryalog canoloesol yw'r unig beth sydd ar ôl yn awr o Gastell Llwchwr.
Mae maint ac agosrwydd y strydoedd byr o dai teras atyniadol yn cyfrannu'n fawr at nodweddion pleserus niferus yr ardal.
Dengys un neu ddau o'r adeiladau mwy dystiolaeth o'u dechreuadau cynnar, ac o'r rhain, mae 'The Sanctuary' yn cynnwys darnau sy'n hynafol iawn.
Yn syth i'r gogledd-ddwyrain, mae ardal bleserus o goetir sy'n cynnwys rhai coed aeddfed sy'n edrych dros lwybr glan yr afon ac yn darparu lloches.
Mae'r rhan hon o Gasllwchwr o arwyddocâd hanesyddol a phensaernïol sylweddol ac mae llawer o'i hunigoliaeth a'i chymeriad gwreiddiol wedi goroesi cychwyniad diwydianeiddio'r 19eg ganrif a thraffig yr 20fed ganrif. Mae'n ardal a fyddai'n ymateb i roi rhaglen o welliant cyffredinol ar waith ac yn ei had-dalu. Argymhellir yn gryf ei bod yn cael ei gwarchod.
(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)