Ardal gadwraeth - Mount Pleasant
Dyddiad cyflwyno: April 1993
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 6507593625
A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 69 SE
Rhif yr ardal gadwraeth: CA:025
Nodiadau:
Adeiladwyd Ysbysty Mount Pleasant fel tloty ym 1861-62 gan Fwrdd Gwarcheidwaid Abertawe am gost o £15,750. Parhaodd i gael ei ddefnyddio tan 1929, pan gymerwyd y lle drosodd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Abertawe a'i droi'n ysbyty; trosglwyddwyd perchnogaeth i'r Gweinidog Iechyd ar ôl i'r gwasanaeth iechyd gael ei wladoli ym 1949.
Mae'r dynodiad argymelledig, fel a ddangosir ar y cynllun atodedig, yn cynnwys yr holl dir a feddiannwyd gan Dloty Undeb Abertawe a agorodd ym 1861-62. Mae rhai o'r adeiladau wedi cael eu clirio, ond mae'r rhai sydd yno o hyd yn cadw'u toeau llechi a'u ffenestriad gwreiddiol yn gyffredinol. Maent mewn cyflwr da. Y deunyddiau: mae'r rwbel tywodfaen brown cynnes gydag addurniadau cerrig nadd, y ffenestri cymesur a dyluniad yr adeiladau eu hunain yn cyfuno â'u safle bendigedig i wneud hwn yn un o'r grwpiau adeiladau Fictoraidd gorau sy'n dal i fod yn y ddinas.
Rhwng yr adeiladau sy'n weddill, erys rhai golygfeydd hardd, yn benodol rhwng y porthdy a'r adeiladau cyfagos, y brif fynedfa i'r safle. Mae'r adeiladau hefyd yn urddasol o hardd wrth ddynesu atynt o'r bryn o ganol y ddinas, a gellid gwella hyn ymhellach drwy gael gwared ar adeilad to gwastad llawer mwy diweddar o'r lawnt flaen a'r ddau estyniad brics bach o'r prif ran flaen.
(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)