Ardal gadwraeth - Newton
Dyddiad cyflwyno: 22.03.1996
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 6060088100
A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 68 NW
Rhif yr Ardal Gadwraeth: CA:028
Nodiadau:
Yn hanesyddol, datblygodd pentref Newton neu "anheddiad newydd" ochr yn ochr â Norton a Mwmbwls fel un o dri phentref mawr sy'n rhan o blwyf Ystumllwynarth. Mae Newton tua 5 milltir i'r gorllewin o ganol y ddinas, mae'n eistedd yn gyfforddus ar safle uchel sy'n edrych dros Barc Underhill ac Ystumllwynarth, gan godi i 234 troedfedd ar ei bwynt uchaf.
Mae'r Map Degwm yn dangos bod pentref Newton wedi'i hen sefydlu erbyn 1844 gyda thai a gerddi sy'n agos iawn i'w gilydd yn blith-draphlith ar y ddwy ochr i Newton a Nottage Road. Mae llawer o'r adeiladau allweddol o gwmpas cnewyllyn hanesyddol y pentref yn dal i fod yno. Adeiladwyd tafarn y "Newton Inn" tua 200 mlynedd yn ôl ac fe'i hadwaenwyd yn flaenorol fel "The Ship". Cafodd tafarn "The Rock and Fountain" ei enw oherwydd ei lleoliad ar bwys y ffynnon a ddaeth yn bwmp y pentref. Un o'r adeiladau hynaf sy'n dal i sefyll yw 'Sgubor Owens a godwyd dros 300 mlynedd yn ôl. Credir i John Wesley bregethu i ysgubor lawn gan nad oedd gan Newton eglwys ei hun, tan i adeilad trawiadol eglwys Sant Pedr gael ei gwblhau ym 1903. Ni ddaeth Newton yn blwyf yn ei rinwedd ei hun tan 1933. Adnewyddwyd Hen Ysgoldy, Newton, a adeiladwyd ym 1863, yn y blynyddoedd diwethaf.
Wedi'i nodi'n fyr mae cymeriad arbennig Newton yn cynnwys defnydd cymysg craidd y pentref, ei strydoedd cul gyda waliau terfyn carreg naturiol darluniadol o'u blaen a llawer o fythynnod teras gwych. Ymysg hyn mae adeiladau unigol hardd a choed aeddfed prydferth.
Oherwydd lleoliad Newton yng Ngŵyr, ei agosrwydd at ganol y ddinas a'i leoliad deniadol a'i adeiladau hardd, mae wedi dod yn ardal breswyl boblogaidd. Canlyniad hyn yw pwysau dwys i ddatblygu yn y pentref. Gall newidiadau ac estyniadau anghydnaws sy'n cael eu cymeradwyo fel datblygu a ganiateir fod yn fygythiad gwirioneddol i gymeriad a golwg y pentref. Am y rheswm hwn byddai diogelu dynodiad ardal gadwraeth yn briodol.
(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)