Ardal gadwraeth - Stryd Rhydychen / Nelson Street / Union Street
Dyddiad cyflwyno: 1977
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 6545092950
A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 69 SE
Rhif yr ardal gadwraeth: CA:018
Nodiadau:
Bydd agoriad cyfadeilad siopa'r Cwadrant yn denu cwsmeriaid yn ogystal â mentrau datblygu i'r ardal leol hon.
Yn fy marn i, mae'n hanfodol na ddylai'r safle gael ei ystyried ar gyfer ailddatblygu cynhwysfawr yn y tymor byr. Dylid asesu effeithiau Canolfan newydd y Cwadrant ar y patrwm manwerthu yn Abertawe yn gyntaf. Dylai cynigion Cyngor y Ddinas i gwblhau'r gwaith i ailddatblygu ardal y Santes Fair a Dewi Sant gael eu rhoi ar waith ymlaen llaw, yn gyntaf i gael gwared ar y brif ardal olaf o ddiffeithdra yng nghanol y ddinas a hefyd i wella delwedd ddinesig y ddinas. Mae'r bloc dan sylw hefyd yn cynnig dewis ac amrywiaeth o fewn adeileddau bach, y mae llawer ohonynt yn gwneud cyfraniad pwysig i dreflun Abertawe a fyddai'n anodd ei gyflawni mewn adeileddau modern.
Awgrymir felly fod Cyngor y Ddinas yn mabwysiadu polisi tuag at yr ardal hon sy'n cynnwys dwy gydran:
- Cadwraeth eiddo penodol yn yr ardal, a chanddynt y teilyngdod pensaernïol gorau.
- Prynu eiddo a chanddynt botensial ar gyfer ailddatblygu dethol yn syth.
Yr amcan cyntaf fydd atal adeiladau llawn cymeriad rhag cael eu dymchwel heb ganiatâd cynllunio a'u disodli gan adeiladau digymeriad. Bydd y strategaeth eilaidd yn rhoi buddiant llywodraethol i Gyngor y Ddinas mewn unrhyw ystyriaethau neu benderfyniadau yn y dyfodol i barhau gydag ailddatblygiad cynhwysfawr yr ardal gyfan, neu ran fawr o'r ardal hon. Rwy'n argymell, felly, bod y swyddogion yn cael yr awdurdod i fynd ati gyda'r canlynol:
- Dyraniad priodol o'r ardal a fyddai'n darparu statws ardal gadwraeth.
- Mesurau priodol i sicrhau pryniant dethol.
(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)