Ardal gadwraeth - Maes Oxwich
Dyddiad cyflwyno: 1979
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 4940086000
A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 48 NW / SS 58 NW
Rhif yr ardal gadwraeth: CA:019
Nodiadau:
Mae Maes Oxwich ar ochr orllewinol Bae Oxwich, ac i'r dde-orllewin o Bentref Oxwich. Mae Maes Oxwich oddeutu 16 milltir i'r gorllewin o Abertawe ar arfordir deheuol Penrhyn Gŵyr a'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'r Ardal Gadwraeth yn cynnwys maes y pentref a'r adeiladau a'r mannau o'i gwmpas.
Mae Maes Oxwich wedi'i leoli o amgylch maes y pentref ac mae'n cynnwys bythynnod a thai traddodiadol bach yn bennaf, ac mae'n ehangu ychydig o bellter i'r dwyrain a'r gorllewin o Gander Street i Fferm Sealands.
(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)