Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal gadwraeth - Pentref Oxwich

Dyddiad cyflwyno: 1979

Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 5000086500

A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 49 NE

Rhif yr ardal gadwraeth: CA:020

Nodiadau:

Mae Pentref Oxwich ar ochr orllewinol Bae Oxwich ac mae oddeutu 16 milltir i'r gorllewin o Abertawe, ar arfordir deheuol Penrhyn Gŵyr a'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'r Ardal Gadwraeth yn cynnwys prif gorff y pentref sy'n ymestyn i'r dwyrain, mor bell ag Eglwys Illtyd Sant.

Mae'r pentref yn llinol ei ffurf, ac yn ymestyn o'r blaendraeth yn y de ar hyd y stryd fawr i gyfeiriad y gogledd, gyda choedwig Oxwich ar dir ar oleddf serth i'r gorllewin sy'n arwain i Gastell Oxwich.

Mae'r pentref yn cynnwys bythynnod a thai traddodiadol ar raddfa fach gan amlaf, mae'n llinol ei ffurf yn bennaf gyda'r tai a'r bythynnod wedi'u trefnu'n anffurfiol ar hyd dwy ochr y brif stryd.

(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Chwefror 2025