Ardal gadwraeth - Alexandra Road
Dyddiad cyflwyno: 1986
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 6545093400
A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 69 SE
Rhif yr ardal gadwraeth: CA:022
Nodiadau:
Mae'r ardal y bwriedir ei dynodi'n cynnwys grŵp hanesyddol o adeiladau cyhoeddus ar y ddwy ochr i Alexandra Road a'r tai teras o'r 19eg ganrif ar hyd Gore Terrace, Clifton Hill a Pleasant Street.
Rhwng yr ardal gerllaw Gorsaf Y Stryd Fawr a thai mwy dosbarth canol Dynevor Place roedd ardal o dai gwael a ddisgrifiwyd fel "Back Street a'i lonydd ac aleon". Adeiladwyd yr ardal hon rhwng 1803 ac 1823 mewn ymateb i'r cynnydd cychwynnol ym mhoblogaeth y dref.
Adeiladwyd y tai o dywodfaen lleol a defnyddiwyd tipyn go lew o frics yn y simneiau, y cyrn simneiau ac o gwmpas agoriadau'r drysau a'r ffenestri, gan mai dyma'r cyfuniad arferol o ddeunyddiau a ddefnyddiwyd ar gyfer waliau'r rhan fwyaf o dai yn Abertawe yn y 19eg ganrif. Roeddent yn cynnwys un ystafell yn unig ar bob llawr. Roedd waliau blaen y tai yn cynnwys dwy ffenestr ddalennog, un uwchben y llall a'r drws ffrynt. Roedd drws yn y cefn ond dim ffenestr. Roedd gan yr agoriadau ar gyfer y ffenestr llawr gwaelod a'r drws ffrynt bennau bwaog hanner cylchog, a llenwyd y bwa gan banel cilfachog o waith brics uwchben y drws neu ffrâm y ffenestr. Roedd hon yn briod nodwedd llawer o'r tai bach a godwyd yn Abertawe yn nhri degawd cyntaf y 19eg ganrif, ac roeddent, mewn ffordd ddiymhongar, yn efelychu ffenestri bwaog mawr a ddefnyddiwyd mewn tai Sioraidd.
Yr unig ran o'r ardal hon sy'n dal i sefyll yw'r grŵp o dai yn Pleasant Street (a adeiladwyd tua 1813-23) a'r tai sy'n parhau i fyny Bryn Clifton, y mae'r ddau grŵp yn rhagorach na'u cymdogion sydd wedi hen ddiflannu.
Mae'r cilfachau bwaog uwchben drysau ffrynt tai Pleasant Street a thair o'r enghreifftiau ar Fryn Clifton yn dal i fodoli.
Ym 1876, cafodd Cyngor Tref Abertawe orchymyn o dan Ddeddf Gwella Anheddau Crefftwyr a Labrwyr 1875 i gael gwared ar y slymiau mewn pum ardal o'r dref. Roedd y Ddeddf yn darparu'r offeryn cyntaf i gynghorau gychwyn cysyniad adfywio trefol cynhwysfawr. Erbyn 1881, roedd Abertawe yn un o wyth tref a dinas ym Mhrydain a oedd wedi mewn gwirionedd cael gafael ar adeiladau slymiau a'u clirio.
Cliriwyd ardal Back Street rhwng 1876 a 1880 a threfnwyd cynllun Alexandra Road ar yr un pryd. Adeiladwyd Alexandra Road ym 1879 ac fe'i gelwid yn wreiddiol yn Yeo Street ar ôl Frank Ash Yeo, cynghorydd amlwg a oedd yn bennaf gyfrifol am glirio'r ardal. Newidiwyd yr enw ym mis Hydref 1881 yn dilyn ymweliad Tywysog Cymru a'r Dywysoges Alexandra ag Abertawe.
Dyluniwyd Alexandra Road fel "Rhodfa Grand" a fyddai'n sgubo ymwelwyr yn syth i ganol y dref o orsaf y Great Western Railway ar y Stryd Fawr. Roedd y cynllun yn dangos darpariaeth brydferthol braidd i wella enw Abertawe ar gyfer twristiaid. Hyd at 1879, roedd yn rhaid i deithwyr trên yn Y Stryd Fawr wynebu holl amrywiaeth gweledol slym dosbarth gweithiol.
Rhwng 1887 a'r Rhyfel Byd Cyntaf, codwyd nifer o adeiladau cyhoeddus cain ar y ddwy ochr i Alexandra Road. Roedd anaddasrwydd hen adeiladau ynghyd ag argaeledd safleoedd mawr dan berchnogaeth cyhoeddus mewn lleoliad yng nghanol y dref wedi arwain at godi Clwb a Sefydliad y Gweithwyr (1885), y Llyfrgell Ganolog (1887), adeilad y BBC (1899), Oriel Gelf Glynn Vivian (1909/11) a'r Orsaf Heddlu Ganolog (1913).
Roedd yr adeiladau hyn a ddyluniwyd mewn arddull glasurol ac adfywiad baróc yn rhan o'r gromlin drawiadol o adeiladau ar hyd y "Rhodfa Grand" a oedd yn ffurfio strydlun ysblennydd a lle trefol atyniadol.
Oherwydd dinistr adeg y rhyfel a'r ailadeiladu a fu ar ôl y rhyfel, yn arbennig y ffyrdd a adeiladwyd, mae llawer o gymeriad gwreiddiol yr ardal wedi mynd gan adael y grŵp o adeiladau cyhoeddus fel gem clystyrog yn hytrach nag ensemble integredig.
(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)