Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal gadwraeth - Parkmill

Dyddiad cyflwyno: 1971

Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 5480089100

A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 58 NW / SS 58 NE

Rhif yr ardal gadwraeth: CA:004

Nodiadau:

Pentref bach o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yw Parkmill, tua 9 milltir i'r gorllewin o Abertawe. Mae ar ochr ogleddol yr A4118, un o'r priffyrdd sy'n gwasanaethu Penrhyn Gŵyr.

Mae'r pentref, sy'n llinol ei ffurf, yn ymestyn dros 100 llath mewn dyffryn rhychog, dwfn. Mae'r bryniau i'r gogledd a'r de yn goediog iawn ac yn codi i dros 200 troedfedd mewn uchder. Mae Parc Cwm, nant fechan gyda'i tharddle ym Mharc Cwm i'r gogledd-orllewin, yn rhedeg drwy'r cwm gan gwrdd â nant fechan arall ar ochr orllewinol y pentref.

Mae'r anheddiad yn cynnwys tua 25 annedd, yn ogystal â chapel, ysgol gynradd fechan a thafarn, ynghyd â dwy siop a gorsaf betrol. Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau'n rhai deulawr, sydd wedi'u hadeiladu mewn arddull werinol syml sy'n dilyn terfyn adeiladu afreolaidd. Er nad oes gan y pentref brif ganolbwynt, mae nodweddion tafarn The Gower Inn i'r dwyrain a'r cyfadeiladau, gan gynnwys yr hen felin i'r gorllewin, yn ychwanegu diddordeb gweledol at y pentref.

Mae cymeriad yr ardal yn dibynnu'n helaeth ar y cyferbyniad rhwng patrwm geometrig syml yr adeiladau a'r tir annatblygedig ar ochr dde'r nant. Mae llifddol yn ymestyn am hyd cyfan y pentref rhwng yr ardal adeiledig a'r bryn, ac mae'n nodwedd unigryw ac atyniadol iawn. Mae'r waliau terfyn cerrig rhwng y briffordd a'r man agored hwn yn ffurfio cyswllt gweledol hanfodol rhwng y datblygiadau mwy cymhleth sydd i'w cael ar bob pen o'r pentref. Mae'r tair dynesfa sy'n arwain i Parkmill o'r dwyrain a'r gorllewin yn rhan annatod o gymeriad amgylcheddol y pentref ac felly maent yn rhan o'r ardal gadwraeth.

Dim ond dau adeilad rhestredig sydd yn y pentref, sef Capel Pisgah a adeiladwyd ym 1822 a Parkmill, breuandy sy'n dyddio yn ôl pob tebyg o'r 18fed ganrif.

(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Chwefror 2025