Ardal gadwraeth - Pen-clawdd
Dyddiad cyflwyno: 1976
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 5420095830
A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 59 NW
Rhif yr ardal gadwraeth: CA:015
Nodiadau:
Mae pentref Pen-clawdd, ar ochr dde-ddwyreiniol Moryd Llwchwr, yn swatio o dan gadwyn o fryniau sydd, bron yn ddi-fwlch, yn ffinio â Bae Llwchwr nes iddynt ddod i ben gyda rhywfaint o urddas ar fryn Llanmadog. Mae'r pentref yn amgylchynu olion yr harbwr ac yn edrych allan dros y foryd wastad a chorslyd.
Mae Pen-clawdd yn ardal breswyl yn bennaf, er bod cymysgedd o ddiwydiant, siopau a thafarndai lleol. Mae rhywfaint o bysgota a mynd mewn cychod yn bodoli o hyd.
Yn wahanol i weddill Gŵyr, mae Pen-clawdd yn hanesyddol wedi bod yn ardal lle siaradwyd Cymraeg ac yn bentref a seiliwyd ar ddiwydiant a morgludiant yn y 18fed a 19eg ganrif yn hytrach nag amaethyddiaeth. Mae wedi bod yn adnabyddus fel y ganolfan brosesu ar gyfer cocos a bara lawr - yng nghanol y 19eg ganrif, cofnodwyd bod y dref yn prosesu dros 5 tunnell o gocos bob dydd. Oherwydd y llygredd yn y foryd, daw'r cocos yn bennaf o King's Lynn erbyn hyn.
Mwyndoddwyd copr ym Mhen-clawdd mor gynnar â 1788 ac roedd Cheadle Brass Wire Company yn gweithio gyda chopr a phlwm yno rhwng 1792 a 1811. Gweithiwyd plwm ac arian yno hefyd yn y 1870au, ynghyd â thunplat. Mae Pen-clawdd yn pontio gwythïen lo ddofn ac mae sawl pwll glo wedi bodoli yn y dref. Adeiladwyd y rhan fwyaf o'r tai teras ar gyfer gweithwyr diwydiannol lleol a'u teuluoedd.
Nid oes gan Ben-clawdd unrhyw enghreifftiau o saernïaeth gain glasurol, ond mae ei gymeriad fel tref yn gryf ac yn feiddgar, ac mae'n dangos treflun traddodiadol rhannol-ddiwydiannol Cymreig, gyda'i gapeli sy'n dal i dremio dros y tai teras.
Mae Capel ac Ysgol Sul Bethel, sy'n edrych dros y dref o fan ffafriol ar y bryn, yn enghraifft wych o gapel sydd wedi'i gynnal yn dda. Mae Pen-clawdd yn unigryw gyda'r llwybrau cerdded niferus sy'n mynd i fyny'r bryn serth ac yn cysylltu â'r aneddiadau ar ben y bryn.
(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)