Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal gadwraeth - Porth Einon

Dyddiad cyflwyno: 1972

Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 4680085200

A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 48 NE

Rhif yr ardal gadwraeth: CA:005

Nodiadau:

Pentref gyda thua 65 annedd yw Porth Einon, ar arfordir deheuol Penrhyn Gŵyr sydd wedi'i ddynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae e' tua 17 milltir i'r gorllewin o Abertawe.

Mae'r tir i'r gogledd o'r pentref yn codi i 200 troedfedd o uchder (60,900 metr) ac mae'n edrych dros Fae Porth Einon.

Mae rhan fwyaf y pentref, sydd ar waelod y bryn, yn dilyn patrwm datblygiad ar hap, gydag Eglwys Blwyf San Catwg yn y canol. Mae'r datblygiad ar wasgar yn parhau am oddeutu 400 llath i fyny'r bryn, ar ongl sgwâr i'r môr.

Mae'r pentref, a oedd yn borthladd bysgota fach yn wreiddiol, yn cadw llawer o naws ei orffennol. Mae hyn i raddau helaeth oherwydd ansawdd yr adeiladau yn rhan hŷn y pentref. Mae'n debygol bod Porth Einon yn cynnwys rhai o'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth werinol syml yn y Penrhyn. Mae'r anheddau â'u nenfydau isel, eu waliau wedi'u distempro â lliw a'u toeon llechi, nad ydynt yn dilyn unrhyw linell adeiladau pendant, yn creu pentref o ansawdd unigryw. Priodolir cymeriad y pentref i'r defnydd o'r deunyddiau syml hyn a hefyd i'r ffyrdd mynediad cul a'r waliau cerrig uchel sy'n cysylltu'r unedau unigol. Er bod rhai croniannau Fictoraidd wedi bod ac er y cymeradwywyd datblygiad newydd, mae hyn at ei gilydd wedi'i integreiddio'n dda i'r pentref.

(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Chwefror 2025