Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal gadwraeth - Reynoldston

Dyddiad cyflwyno: 1971

Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 4803089940

A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 49 SE / SS 48 NE

Rhif yr ardal gadwraeth: CA:003

Nodiadau:

Pentref bach ym mhenrhyn Gŵyr yw Reynoldston, o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae ar ochr ddeheuol Cefn Bryn, cadwyn o fryniau sydd dros 500 troedfedd o uchder. I'r de o'r pentref mae'r tir yn disgyn yn raddol am ryw 5 milltir i arfordir Bae Oxwich.

Mae'r pentref yn cynnwys rhyw 50 annedd, tafarn, capel ac eglwys wedi'i chysegru i San Siôr, a adeiladwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae'r anheddiad wedi datblygu ar hyd drysfa o lonydd cul a llwybrau cerdded sy'n dod ynghyd wrth faes y pentref, i'r gorllewin o'r eglwys. Dyma'r unig ran o'r pentref lle ceir unrhyw ymdeimlad o fan caeëdig. Mae cymeriad gweddill y pentref yn dibynnu'n helaeth ar ddiffyg unrhyw linell adeiladau pendant. Mae hyn wedi arwain at gydadwaith o adeiladau sy'n encilio ac yn estyn allan, sydd wedi cynhyrchu stryd anffurfiol a deniadol. Mae dyluniad pensaernïol syml yr adeiladau, y mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u hadeiladu â phwyslais llorweddol, yn nodwedd hanfodol o gyfansoddiad gweledol y pentref.

Mae Reynoldston yn dal i fod yn bentref heb ei ddifetha ar y cyfan, ac mae'r rhan fwyaf ohono wedi'i adeiladu o ddeunyddiau lleol sy'n sicrhau ei fod yn ymdoddi i'r dirwedd. Mae dau adeilad rhestredig yn y pentref, sef Eglwys San Siôr a Brynfield, tŷ mawr o'r 18fed ganrif, i ochr orllewinol bellaf y pentref.

Mae'r Ardal Gadwraeth yn eithrio'r ardaloedd datblygedig gerllaw i gyfeiriad y dwyrain a'r gorllewin, nad oes ganddynt unrhyw gymeriad.

(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Chwefror 2025