Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal gadwraeth - Rhosili

Dyddiad cyflwyno: 1976

Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 4163088070

A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 48 NW

Rhif yr ardal gadwraeth: CA:016

Nodiadau:

Yn ddi-os, saif y pentref yn y man mwyaf dramatig ar benrhyn Gŵyr, os nad ym Mhrydain. Mae'r pentref ar bwynt mwyaf gorllewinol y penrhyn, a saif ar ben clogwyni 250 troedfedd o uchder ym mhen deheuol ehangder 5 milltir Bae Rhosili, ac mae wedi'i glystyru'n dynn o gwmpas Eglwys y Forwyn Fair a maes y pentref, a fu unwaith yn safle croes y pentref.

Datblygodd y pentref fel cymuned amaethyddol wrth ymyl y tir digysgod ond ffrwythlon ar ben y clogwyni - mae'r "Vile", system o diroedd caeëdig canoloesol (caeau wedi'u rhannu gan gloddiau sychion) i'w gweld o hyd o ardaloedd uchaf bryn Rhosili.

Roedd poblogaeth o oddeutu 110 yn byw mewn 50 o dai ym 1563 a chynyddodd i 208 ym 1811; erbyn hyn mae tua 300.

Credir i'r pentref gael ei ailadeiladu sawl canrif yn ôl (fel rhai aneddiadau eraill yn ne penrhyn Gŵyr) ar uchder uwch i osgoi'r tywod a chwythwyd gan y gwynt. Mae'n hysbys bod yr hen eglwys sydd o dan yr un bresennol wedi cael ei "chladdu gan dywod".

Roedd y pentref yn sicr yn gartref i longddryllwyr a smyglwyr yn ystod y 17eg a'r 18fed ganrif, ond mae'n debyg ei fod yn fwy adnabyddus fel man geni Evans, a fu farw ar alldaith olaf Scott ym Mhegwn y De ym 1912.

Yr adeiladau hynaf yn y pentref yw'r eglwys a'r fferm, er bod yr eglwys yn rhagflaenu popeth arall o gryn dipyn. Mae'r rhan fwyaf o'r adeileddau presennol yn rhai o oes Victoria ac yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, pan oedd y boblogaeth yn fwy nag y mae yn awr. Mae hen Fwthyn Gwylwyr y Glannau yng nghanol y teras bach gyferbyn â'r gwesty.

Cerrig yw'r prif ddeunydd, er bod llawer o'r bythynnod wedi'u rendro i'w hamddiffyn rhag y tywydd.

Newidiwyd yr Eglwys, a sefydlwyd gan Fili Sant yn y 6ed ganrif, i Eglwys y Santes Fair pan godwyd yr adeilad presennol yn y 13eg ganrif. Yn ystod yr oes a fu, roedd hi'n perthyn i urdd lled-grefyddol, Marchogion yr Ysbytwyr.

Mae'r cynllun yn un syml sy'n cynnwys corff yr eglwys a changell, gyda thŵr yn y pen gorllewinol a ddefnyddiwyd fel tirnod gan forwyr ers amser maith. Eir i mewn i'r eglwys trwy ddrws Normanaidd o'r 12fed ganrif a ddaeth o safle arall. Mae ffenestr o'r 13eg ganrif i'w gweld yn y wal orllewinol, ac mae ffenestr wydr ar gyfer y
gwahanglwyfus yn bodoli yn y gangell. Credir bod hon wedi'i defnyddio i glywed cyffesion.

Adferwyd yr eglwys ym 1846, ar ôl iddi ddechrau dadfeilio. Gosodwyd cofeb i Evans y tu mewn i'r adeilad ar ôl ei farwolaeth ym 1912.

Mae Rhosili yn bentref preswyl yn bennaf ac mae siopau, swyddfa bost a thafarn yno. Mae pwysau yn sgîl gweithgareddau hamdden yn cynyddu gyda phob tymor yr haf, a bydd gwesty'r Worm's Head, a gafodd ei ddinistrio'n ddiweddar gan dân, yn cael ei ailadeiladu'n fuan. Mae twf poblogrwydd barcuta wedi arwain at glwb newydd yn y pentref, ac mae'r defnydd o lwybrau troed ar ben deheuol bryn Rhosili wedi cynyddu'n fawr. Mae caffis a siop i dwristiaid yn darparu ar gyfer y mewnlif o ymwelwyr dros yr haf, ac mae'r maes parcio ym mhen gogleddol pentir Pen Pyrod wedi'i ehangu'n ddiweddar.

(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Chwefror 2025