Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal gadwraeth - Sgeti

Dyddiad cyflwyno: 05.06.1996

Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 628092450

A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 69 SW

Rhif yr ardal gadwraeth: CA:031

Nodiadau:

Fel nifer o enwau ar benrhyn Gŵyr ac o'i gwmpas, mae'n debyg bod tarddiad Sgandinafaidd i'r enw Sgeti. Fel cymuned bentrefol, daeth Sgeti i fodolaeth, yn y lle cyntaf, fel man cwrdd lle byddai ffyrdd yn dod ynghyd ac yn croesi'i gilydd. Fel ardal, datblygodd Sgeti y tu allan i fwrdeistref orllewinol Abertawe, a hyd yn oed yn ystod blynyddoedd olaf y 19eg ganrif a hyd at ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd pentref Sgeti yn lleoliad gwledig darluniadwy o blastai gan y wlad, pentrefannau a oedd yn datblygu, bythynnod ar wahân neu fythynnod teras, lonydd cul ac erwau o ddolydd a thir pori dilychwin. Gellir priodoli llawer o'r twf a ddigwyddodd yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif i berchnogion tir lleol llewyrchus a diwydianwyr a oedd yn tueddu i sefydlu eu 'plastai' yn y lleoliad darluniadwy a roddwyd i Sgeti.

Yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf, prynodd John Henry Vivian, un o ddiwydianwyr mwyaf llwyddiannus Abertawe, dros ddwsin o ffermydd i'r gorllewin o'r dref i greu'r ystad yr oedd yn ei galw'n Singleton. Heddiw, mae llawer o'r ystad honno'n ffurfio Parc Singleton, un o barciau gorau Abertawe. Yn ward Sgeti mae 20 adeilad rhestredig, y mae 14 ohonynt o fewn yr Ardal Gadwraeth arfaethedig. Maent yn cynnwys Plas Sgeti, a adeiladwyd mor gynnar â 1716 ac a adwaenwyd yn wreiddiol fel Plas Newydd, ac Abaty Singleton a adeiladwyd yn wreiddiol fel fila wythonglog yn debyg i ddyluniadau William Jeregan ac a adwaenwyd fel Marino.

Yn ogystal â'r tai mawr a safai ar ystad Singleton a'r rheini gerllaw a ddefnyddiwyd gan aelodau o'r teulu Vivian, mae llawer o fythynnod a chabanau bach yn dal i fodoli, a oedd yn gartref i'r nifer o weithwyr a gyflogwyd yno. Adeiladau fel y Tŷ Veranda (1853), Bwthyn y Swistir (1826), Brynmill Lodge (1850), North Lodge (1850) a Green Lodge Sgeti Isaf (1841).

Mae Ffermdy Singleton, a adeiladwyd tua 1764, hefyd o bwysigrwydd mawr ac roedd yn rhan o dirddaliadaeth helaeth Arglwyddiaeth Gŵyr tan 1829 ac ar ôl hynny daeth yn gysylltiedig â phrif gartref y teulu Vivian. Codwyd Eglwys Sant Paul ym 1850 gan y teulu Vivian fel fersiwn ddelfrydol o Eglwys Blwyf Seisnig. Wedi hynny, daeth Sgeti yn blwyf yn ei rinwedd ei hun, ar orchymyn y brenin, ym 1851. Y teulu Vivian adeiladodd Stuart Hall fel ysgol ym 1853 i addysgu plant plwyfolion Eglwys Sant Paul.

Mae rhywfaint o'r bensaernïaeth ddomestig hefyd yn arwyddocaol. Er enghraifft, adeiladwyd rhifau 1-11 De La Beche Road, rhesi o dai teras, gan C T Ruthin ym 1905 a 1906 yn y drefn honno.

I grynhoi, mae cymeriad arbennig Sgeti yn cynnwys rhai o blastai gorau Abertawe, parcdir hardd, porthdai darluniadol, bythynnod ar wahân a bythynnod teras, tai unigol ac eglwys blwyf draddodiadol. Mae canol yr Ardal Gadwraeth arfaethedig yn seiliedig ar y crynhoad mwyaf o Adeiladau Rhestredig yn Abertawe.

(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Chwefror 2025