Ardal gadwraeth - Trevivian
Dyddiad cyflwyno: 1977
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 6545594800
A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 69 SE
Rhif yr ardal gadwraeth: CA:017
Nodiadau:
Adeiladwyd yr ardal o gwmpas Vivian Street, yr Hafod, a amlinellir ar y map atodedig, oddeutu 1840. Fe'i prynwyd yn ddiweddarach gan y teulu Vivian, a oedd yn rheoli Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, i roi llety i deuluoedd eu gweithwyr, ac fe'i hehangwyd wedi hynny.
Mae'r tai ar y strydoedd hyn ymysg yr hynaf sydd ar ôl yn Abertawe ac maent o ddyluniad pensaernïol dymunol iawn. Mae'r defnydd o ddeunyddiau lleol a slag copr yn yr adeiladau o ddiddordeb arbennig. Mae'r ardal, a adwaenwyd yn wreiddiol fel Trevivian, o bwysigrwydd sylweddol yn hanes cymdeithasol a diwydiannol de Cymru. Yn debyg i bentref diwydiannol mwy y teulu Morris ymhellach i'r gogledd, mae'n arbennig o addas i'w ddynodi'n ardal gadwraeth.
Mae'r ardal a gynigir ar gyfer cadwraeth yn cynnwys terasau'r gweithwyr, yn ogystal â'r hen ysgol, a ddefnyddiwyd wedi hynny fel ffatri ddillad, ac a ddefnyddir bellach yn rhannol gan Frawdoliaeth yr Hafod. Adeiladwyd y bythynnod carreg wrth ymyl hon i letya'r ysgolfeistri. Mae Eglwys Sant Ioan yn Odo Street yn adeilad carreg hyfryd (tywodfaen nadd yn rhannol), a adeiladwyd ym 1879.
(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)