Ardal gadwraeth - Wind Street
Dyddiad cyflwyno: 1975
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 6570093000
A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 69 SE
Rhif ar ardal gadwraeth: CA:014
Nodiadau:
Mae Wind Street (Wyne Street ym 1567) yn dilyn yr un llinell ag yr arferai yn yr oesoedd canol. Mae'n debyg bod sawl un o'i hadeiladau, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yn dyddio o'r cyfnod hwn. Mae ei siâp bwaog yn dilyn siâp afon Tawe. Ynghyd â Butter Street (St Mary Street heddiw), Castle Street a Castle Bailey Street (Bayliff Castella Street ym 1626) a'r Stryd Fawr, roedd Wind Street yn ganolfan bwysig ar gyfer masnach a diwydiannau bach, gwestai a thafarndai. Roedd dau o westai pwysicaf Abertawe ar y stryd, sef The George a The Mackworth, gwestai lle cynhaliwyd llawer o brif swyddogaethau'r dref, ac a oedd yn ganolog i lawer o fywyd cymdeithasol y dref. Ar un adeg roedd gan bapur newyddion "The Cambrian" swyddfeydd ar ben gogleddol Wind Street, yn agos at y safle lle safai "Island House". Roedd gan swyddfeydd "The Cambrian" ar y llawr gwaelod ffenestr wydr grom gyntaf Abertawe, a ddaeth yn atyniad pwysig i dwristiaid.
Mae'r castell, sy'n dyddio'n ôl i'r 11eg ganrif, ar ben uchaf y stryd ac mae'n un o adeiladau pwysicaf Abertawe yn weledol. Fe'i defnyddiwyd drwy'r oesau fel carchar i ddyledwyr, marchnad ffrwythau a llysiau, Neuadd y Dref, tŷ marchnad, Capel Catholig, gwaith gwydr, swyddfa'r post, ysgol ddarlunio a gwaith argraffu. Mae hen dŵr cloc y castell yn dal i dremio dros Erddi'r Castell; mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i droi hen dŵr swyddfa'r post a ffasâd yr Evening Post yn Ganolfan Wybodaeth newydd.
Ar ben gogleddol yr ardal gadwraeth arfaethedig a ger y carchar dyledwyr y mae sinema'r Castell. Credir mai dyma'r sinema gyntaf yn Abertawe i gael "ffilm lafar" o gwmpas 1926. Mae gan y sinema ffasâd trawiadol ar y Strand.
Roedd The Inn yn rhan o Ysbyty Dewi Fendigaid gynt a sefydlwyd ym 1332 gan Henry De Gower, Esgob Dewi Sant. Roedd yn gweithredu fel tafarn o 1547. Fe'i difrodwyd yn wael yn ystod cyrchoedd awyr 1941 a chafodd ei ailadeiladu yn y 1950au ac enillodd Wobr yr Ymddiriedolaeth Ddinesig.
Mae'r enghraifft orau sydd ar ôl o lôn i gerddwyr, Salubrious Passage, rhwng adeiladau'n bennaf ar Wind Street. Dangosir yr adeiladau hyn ar arolwg 1852 - mae'r hen dafarn Shades Tavern bellach yn siop.
Wind Street yw'r stryd orau sy'n dal i fodoli yn Abertawe, ac mae'n bodoli heddiw fel yr oedd ar droad y ganrif gyda dau eithriad sylweddol yn unig. Wrth i gynifer o strydoedd eraill gael eu colli yn ystod y rhyfel, mae ei chadwraeth yn bwysicach fyth. Mae ei siâp bwaog yn nhraddodiad gorau treflunio da.
Mae ochr ddwyreiniol y stryd (ochr yr afon) yn dyddio'n bennaf o ganol i ddiwedd y 19eg ganrif ac yn cynnwys llawer o enghreifftiau arbennig o saernïaeth fasnachol o oes Victoria, ac adeiladau Mackwork (rhifau 9-10) yw'r enghreifftiau gorau.
Mae ochr orllewinol y stryd yn hŷn. Mae tu blaen yr adeilad yn dyddio'n bennaf o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif ac mae wedi'i adeiladu â briciau meddal coch, sy'n nodweddiadol o'r cyfnod Sioraidd. Fodd bynnag, gan fod llawer o batrwm y stryd a'r aleon canoloesol yn dal i fodoli, mae'n debygol bod llawer o'r adeileddau hefyd yn dyddio'n ôl i'r cyfnod hwn. Mae'r ardal hon yn unigryw i Abertawe ac yr un mor bwysig ag unrhyw ardal arall yng Nghymru.
(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)