Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal gadwraeth - Cheriton

Dyddiad cyflwyno: 1972

Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 4510093100

A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 49 SW / SS 49 SE

Rhif yr ardal gadwraeth: CA:006

Nodiadau:

Hen bentrefan bach, sefydledig yng ngogledd Gŵyr yw Cheriton, sydd ar safle cysgodol, coediog hyfryd yng nghanol cwm Burry Pill, rhyw 16 milltir i'r gorllewin o Abertawe.

Yn ddi-au, mae'n un o aneddiadau mwyaf atyniadol Gŵyr, ac ategir ei leoliad bendigedig gan gasgliad o adeiladau sy'n ychwanegu at ddengarwch a llonyddwch Cheriton. Canolbwynt y pentref bach yw Eglwys Catwg Sant, adeilad cain a chymesur gydag adeiledd o'r 13eg ganrif gyda thŵr canolog. Mae'r Eglwys yn agos at yr afon â choed ar ei hyd. Ger y fynwent mae Fferm Glebe, sy'n cynnwys ffermdy nodweddiadol o'r 16eg neu'r 17eg ganrif. Prif nodwedd yr adeilad hwn yw ei simnai wythonglog dal gyda chorn simnau carreg. Mae'r Eglwys, Fferm Glebe a'r rheithordy gwyngalchog atyniadol yn ffurfio grŵp diddorol rhwng yr afon a'r bryn tua'r gogledd.

Ar ochr arall y bont gerrig, mae'r bryn coediog sy'n dringo'n serth yn lleoliad deniadol ar gyfer tua dwsin o anheddau o ddyluniad a deunyddiau gwerinol mewn lliwiau mwyn amrywiol, a chanddynt erddi sydd wedi'u trin yn dda.

Mae Cheriton i bob pwrpas yn bentref sydd heb ei ddifetha. Mae'r Ardal Gadwraeth yn cynnwys y pentrefan bach cyfan, ynghyd â rhannau o'r bryniau coediog serth cyffiniol sy'n darparu llawer o'i gyfaredd cynhenid.

(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Chwefror 2025