Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal gadwraeth - Llanilltud Gŵyr

Dyddiad cyflwyno: 1972

Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 5561590370

A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 59 SE

Rhif yr Ardal Gadwraeth: CA:007

Nodiadau:

Pentrefan ym mhenrhyn Gŵyr yw Llanilltud Gŵyr sydd yng nghwm Llanilltud Gŵyr hanner ffordd rhwng y B4271 a'r A4118, tua 9 milltir o Abertawe.

Mae ganddo leoliad trawiadol ac mae'n un o aneddiadau mwyaf darluniadol penrhyn Gŵyr. Mae Cwm Llanilltud Gŵyr yn llifo drwy gwm coediog ag iddo lethrau cymharol serth sy'n darparu echel ar gyfer y pentref a ddilynir gan y ffordd sy'n ymdroelli i'r gogledd-ddwyrain o Lunnon.

Mae'r pentref yn cynnwys eglwys ac 11 o anheddau sydd wedi'u gwasgaru blith draphlith ar lawr y cwm a'r bryniau isaf o gwmpas dôl sy'n cynnwys llawer o goed aeddfed sydd i'r gorllewin o'r afon. Mae Eglwys Illtud Sant yn dyddio o'r 13eg ganrif ond fe'i hadferwyd yn ystod y ganrif ddiwethaf. Mae ganddi furfwlch anferth a thŵr sydd wedi'i orchuddio ag iorwg ynghyd â tho trumiog sy'n nodweddiadol o lawer o eglwysi canol oesol penrhyn Gŵyr.

Mae'r anheddau o gwmpas llawr y cwm yn ffurfio grŵp gwasgaredig o amrywiaeth o ddyluniadau, deunyddiau a lliwiau ac mae anffurfioldeb eu lleoliad yn cyfrannu'n sylweddol at ansawdd amgylcheddol yr ardal. Mae cyfoeth y llystyfiant, sy'n meddalu eu hamlinellau, yn gyferbyniad dymunol rhwng y man agored canolog gwastad a'r bryn serth a choediog sy'n fframio ac yn amgáu'r anheddiad.

Mae'r chwareli calchfaen ar y bryn i'r gorllewin o Lanilltud Gŵyr bellach yn segur ac mae wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Enillodd Llanilltud Gŵyr deitl y Pentref Taclusaf yng Ngŵyr ym 1970 gan Gymdeithas Pentrefi Gŵyr.

Mae'r Ardal Gadwraeth yn cynnwys yr anheddiad cyfan, y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, y ffyrdd dynesu a'r bryniau cyfagos sy'n ffurfio rhan annatod o gymeriad gweledol Llanilltud Gŵyr.

(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Chwefror 2025