Ardal gadwraeth - Landimôr
Dyddiad cyflwyno: 1973
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 4642093230
A.O. 1:10,000 Rhyf y ddalen: SS 49 SE
Rhif yr ardal gadwraeth: CA:009
Nodiadau:
Pentref o oddeutu ugain tŷ ar lan de-orllewinol Moryd Burry. Fe'i cysgodir ar yr ochr orllewinol gan frigiad calchfaen trawiadol sy'n codi 200 troedfedd uwchben lefel y môr. Mae adfeilion castell o'r 15fed ganrif sef Castell Bovehill, ar y gefnen hon, ac yn edrych dros y pentref a chorsydd Landimôr.
Mae datblygiad anffurfiol yn y pentref ar hyd lonydd suddedig â choed ar eu hyd, y mae un ohonynt yn disgyn yn serth i'r lan, ac mae'r adeiladau, er yn syml eu cymeriad, yn llai plaen na'r rheini ar y rhannau uwch, mwy agored o'r penrhyn.
Fe'u gwnaed o ddeunyddiau lleol, ac mae ganddynt waliau wedi'u rendro a thoeon llechi.
Mae gan y pentref awyrgylch diarffordd a chymeriad a fyddai'n ymateb i weithredu egwyddorion cadwraeth yn ofalus.
(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)