Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal gadwraeth - Bae Langland

Dyddiad cyflwyno: 02.07.1992

Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 6060087300

A.O. 1:10,000 Rhyf y ddalen: SS 68 NW

Rhif yr ardal gadwraeth: CA:024

Nodiadau:

Yn ystod y 19eg ganrif, roedd gweithrediadau cloddio mwyn haearn a chalchfaen ar raddfa fach yn bodoli yn yr ardal. Fodd bynnag, roedd twristiaeth yn drech na'r rhain; mor bell yn ôl ag 1813, nodwyd atyniadau'r ardal yn "A Description of Swansea and its Environs" a gyhoeddwyd gan David Jenkin o Castle Street sy'n disgrifio'r ardal fel un a oedd yn enwog am ei chregyn a harddwch ei lleoliad. Ym 1856, agorwyd heol newydd yn cysylltu'r bae â'r ddinas, cyfraniad gan Ddug Beaufort, a gynyddodd boblogrwydd yr ardal ymhlith ymwelwyr undydd fel y nodwyd yn "The Cambrian" ym mis Mehefin 1856:-

"Few places in the kingdom present more attractions for excursionists and picnics that the delightful neighbourhood of Langland...and we doubt not, with this improved mode of access, it will soon become a fashionable resort".

Today the bay is still a popular area being heavily frequented by City residents and tourists and is particularly popular as a day trip destination. The availability of sporting facilities such as golf, tennis, water skiing and surfing add to its attraction.

Heddiw mae'r bae yn dal i fod yn ardal boblogaidd y mae llawer o breswylwyr y ddinas a thwristiaid yn mynd iddi gan ei bod yn arbennig o boblogaidd fel cyrchfan trip undydd. Mae argaeledd cyfleusterau chwaraeon fel golff, tennis, sgïo dŵr a syrffio yn ychwanegu at ei atyniad.

Nodweddir Bae Langland gan anheddau mawr ar wahân, â digon o le rhyngddynt, ar ochr bryn ymysg cefnlen o goetir collddail aeddfed a warchodir gan Orchmynion Cadw Coed. Mae hyn yn rhoi naws lled-wledig arbennig i'r ardal. Mae sawl adeilad hardd ymysg y coed fel Cartref Ymadfer Undeb y Clwb a oedd yn fila diwydiannwr o ganol y 19eg ganrif. I gydnabod ei ddiddordeb pensaernïol, fe'i dynodwyd yn Adeilad Rhestredig Gradd II ym 1989.

Mae'r ardal arfordirol yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE), ac mae hefyd yn rhan o'r Arfordir Treftadaeth.Dyma'r ardal twristiaeth a hamdden arfordirol a ddefnyddir fwyaf yng Ngŵyr, am ei bod yn cynnig morlun amrywiol o faeau tywodlyd hardd a chraig galchfaen. Mae'r llwybr arfordirol poblogaidd rhwng baeau Limeslade a Caswell yn rhedeg yn syth ar hyd blaen y bae ac mae angen ei wella rhywfaint.

Un o nodweddion unigryw y Bae yw'r toreth o gabanau haf bychain sy'n dyddio o ddechrau'r 1920au a ddefnyddir yn bennaf fel cyfleusterau cysgodi i nofwyr. Maent y rhedeg yn ysbeidiol ar hyd y blaendraeth am dros filltir.

Y cyfuniad hwn o olygfeydd arfordirol hardd, traethau tywodlyd hygyrch a glan môr nad yw wedi'i fasnacheiddio rhyw lawer, gyda'r cabanau ymdrochi niferus hyn sy'n cyfrif am gymeriad a golwg arbennig Bae Langland. Mae'r cyrchfan glan môr poblogaidd ond bach hwn wedi'i fframio'n weledol gan goetir aeddfed sy'n ffurfio'r cefnlen i'r bae. Mae'r graddoliad o'r môr i'r tywod, y promenâd i'r cabanau traeth, y gwestai a fflatiau i ardal breswyl uwchben, yn y coetir, yn caniatáu i'r cyrchfan swatio o fewn y bae, yn hytrach nag edrych drosto. Ardaloedd gwyrdd sydd mwyaf amlwg yn weledol; erys adeiladau, gydag ambell eithriad, yn ail iddynt.

(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Chwefror 2025