Adeiladau Rhestredig ac Atgyweiriadau Cyfatebol
Os ydych yn ystyried mynd ati i atgyweirio adeilad rhestredig neu wneud gwaith iddo gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau sy'n cyfateb i'r rhai a ddefnyddiwyd yn wreiddiol, yna mae'n ddoeth siarad â Swyddog Cadwraeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae hyn yn bwysig i gadarnhau bod yr atgyweiriadau sy'n cyfateb yn wirioneddol i'r gwreiddiol a bod y gwaith arfaethedig yn briodol ar gyfer yr adeilad rhestredig.
Gellir mynd i'r afael â hyn drwy gyflwyno ymholiad cyn cyflwyno cais ar gyfer adeilad rhestredig. Byddwn yn asesu'ch cynigion ac yn dweud wrthych a yw eich atgyweiriadau arfaethedig yn cael eu hystyried yn waith cyfatebol priodol. Os oes angen, byddwn yn amlygu lle mae angen caniatâd adeilad rhestredig.
Dyma'r taliadau ar gyfer y gwasanaeth cyn cyflwyno cais ar gyfer adeilad rhestredig:
- Ymholiad cyn cyflwyno cais ar gyfer adeilad rhestredig: £100 + TAW
- Ymholiad cyn cyflwyno cais ar gyfer adeilad rhestredig masnachol: £250 + TAW
Gallwch gyflwyno ymholiad cyn cyflwyno cais ar gyfer adeilad rhestredig gan ddefnyddio'r ffurflenni cyn cynllunio statudol yn Cyngor safonol cyn cyflwyno cais cynllunio